Owen Gethin Jones

Welsh writer, carpenter, local historian and antiquarian
The basics

Quick Facts

IntroWelsh writer, carpenter, local historian and antiquarian
A.K.A.Gethin
A.K.A.Gethin
PlacesUnited Kingdom
wasWriter Carpenter Antiquarian Poet
Work fieldLiterature Social science
Gender
Male
Birth1 May 1816
Death29 January 1883 (aged 66 years)
Star signTaurus
The details

Biography

Llenor Cymraeg, saer a hynafiaethydd Cymreig oedd Owen Gethin Jones neu "Gethin" (1 Mai 1816 - 29 Ionawr 1883). Roedd yn frodor o blwyf Penmachno (Bro Machno, Sir Conwy).

Bywgraffiad

Ganed Gethin ar 1 Mai 1816 yn Tyn-y-cae , Penmachno, yn fab i Owen a Grace Jones. Saer maen oedd ei dad. Dysgodd Gethin grefft ei dad ond yn nes ymlaen bu'n saer coed am gyfnod ac wedyn daeth yn adeiladydd. Priododd yn 1843 ac yn 1852 prynodd fferm Tyddyn Cethin. Ffynnodd fel amaethwr, crefftwr a chontractor. Bu farw ar y 29 o Ionawr 1883, flwyddyn ar ôl cael ei barlysu (canlyniad cael strôc, mae'n debyg).

Llenor a hynafiaethydd

Roedd Gethin yn fardd eisteddfodol brwdfrydig ond fe'i cofir heddiw fel hynafiaethydd ac fel hanesydd lleol, ac yn enwedig am ei draethodau ar hanes plwyfi Penmachno, Ysbyty Ifan, a Dolwyddelan. Cyhoeddwyd detholiad o'i waith yn 1884, blwyddyn ar ôl ei farw.

Llyfryddiaeth

  • Gweithiau Gethin (1884). Gyda 'byr-gofiant' iddo.
  • Vivian Parry Williams, Owen Gethin Jones - Ei Fywyd a'i Feiau (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)

Cyfeiriadau

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.