Biography
Also Viewed
Quick Facts
Birth | 1969 |
Age | 56 years |
Biography
Nick Bennett (ganwyd 29 Ebrill 1969) yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 2014.
Bywyd cynnar ac addysg
Magwyd Nicholas Bennett yn Llangefni, Ynys Môn ac aeth i Ysgol Gyfun Llangefni. Aeth ymlaen i Brifysgol Aberystwyth yn 1987 lle astudiodd am radd BSc Econ mewn Gwyddor Wleidyddol ac yna MBA yn 1991.
Gyrfa
Yn 1995 aeth i weithio yng Nghanolfan Ewropeaidd Cymru ym Mrwsel gan adael yn 1999. Rhwng 2000 a 2002 bu'n gynghorydd arbennig i'r Dirprwy Brif Weinidog yn Llywodraeth Cymru pan oedd clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Gweithiodd i Bute Communications rhwng 2004 a 2006. Roedd yn brif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru rhwng 2006 a 2014, cyn cael ei benodi fel Ombwdmsan Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Mehefin 2014.
Sefodd fel ymgeisydd i blaid y Democratiaid Rhyddfrydol dros yr ynys mewn etholiad San Steffan yn 2001.
Bywyd personol
Mae'n briod gyda thri o blant.
Cyfeiriadau
- ↑ Amdanon ni : Ombwdsman. Adalwyd ar 7 Hydref 2017.
- ↑ Proffil Linkedin. Adalwyd ar 7 Hydref 2017.
- ↑ Nick Bennett - Group chief executive of Community Housing Cymru. Adalwyd ar 7 Hydref 2017.