Cyfieithydd, golygydd ac awdur Cymreig yw Meinir Pierce Jones (ganed 1957).
Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Y Gongol Felys, restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006.
Mae'n byw yn Nefyn, Pen Llŷn, ac yn gweithio i'r cwmni cyfieithu A-Pedwar.
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Y Gongol Felys yn 2005 ac fe'i dewisiwyd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006. Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr i blant yn y gyfres Chwedlau o Gymru, sef Bargen Siôn ac Y Bychan Benthyg.
Llyfryddiaeth
Llyfrau plant
- Pen Tymor (Gwasg Gomer, 1986)
- Loti (Gwasg Gomer, Ionawr 1989)
- Modryb Lanaf Lerpwl (Gwasg Gomer, Ionawr 1991)
- Iechyd Da, Modryb! (Gwasg Gomer, Ionawr 1994)
- Campiaith 1 - Llyfr Canllawiau Iaith i Blant 7-9 Oed (Gwasg Taf, Ionawr 1997)
- Campiaith 2 - Llyfr Canllawiau Iaith i Blant 9-11 Oed (Gwasg Taf, Ionawr 1997)
- Bargen Siôn (Gwasg Gomer, Gorffennaf 1998)
- Y Bychan Benthyg (Gwasg Gomer, Mai 1999)
- Viva Cymro! (Gwasg Gomer, Awst 2000)
- Looking for Cymro (Pont Books, Awst 2000)
- Un o Fil (Gwasg Gomer, Medi 2001)
- Taid ar Binnau (Gwasg Gomer, Awst 2004)
- Mymryn o Dric! (Gwasg Gomer, Tachwedd 2005)
- Y Cwestiwn Mawr (Y Lolfa, Mawrth 2010)
Llyfrau oedolion
- Y Gongol Felys (Gwasg Gomer, Mai 2005)
- Lili Dan yr Eira (Gwasg Gomer, Chwefror 2008)
Eraill
- Cyfres Llyfrau Cwis: Llyfr Cwis, gyda Geraint Williams (Gwasg Gwynedd, Rhagfyr 2001)
- Y Gongol Felys, crynoddisg, addasiad llafar/talfyriad, adroddwyd gan Jennifer Vaughan) (Tympan, Tachwedd 2007)
Dolenni allanol
Cyfeiriadau
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.