Mary Bevan

Un o'r cenhadon a deithiodd o Neuaddlwyd i Fadagasgar yn 1818 i sefydlu cenhadaeth Gristnogol yno
The basics

Quick Facts

IntroUn o'r cenhadon a deithiodd o Neuaddlwyd i Fadagasgar yn 1818 i sefydlu cenhadaeth Gristnogol yno
PlacesUnited Kingdom
isMissionary
Gender
Female
BirthUnited Kingdom
Death1819
ResidenceMerina Kingdom
Family
Spouse:Thomas Bevan
The details

Biography

Roedd Mary Bevan (née Jacob, ?–1819) yn un o'r cenhadon a deithiodd o Neuaddlwyd, Ceredigion i Fadagasgar yn 1818 i sefydlu cenhadaeth Gristnogol yno.

Ganwyd Mary ar fferm Penrallt-wen yn nyffryn Aeron rhwng 1795 a 1800. Roedd ei theulu yn aelodau o Eglwys Annibynnol Neuaddlwyd, a derbyniwyd hithau hefyd yn aelod yn 1807. Yn 1818 teithiodd gyda'i gẇr Thomas Bevan i Frenhiniaeth Imerina (Madagasgar heddiw) gan hwylio o Gravesend ym mis Chwefror a chyrraedd Mauritius ar 3 Gorffennaf, er iddynt orfod dychwelyd i Loegr ac ail-gychwyn y siwrne oherwydd tywydd garw. Roedd yn feichiog erbyn hynny, ac arhosodd yno, tra bod Thomas yn hwylio yn ei flaen i Fadagasgar gyda David Jones. Arhosodd Louisa Darby, priod David Jones, hefyd yn Mauritius. Dychwelodd Thomas i Mauritius ym mis Hydref i nol Mary a'u plentyn.

Bu farw Mary, o glefyd malaria yn ôl pob tebyg, ar 3 Chwefror 1819. Bu farw ei phlentyn bythefnos ynghynt, ar 20 Ionawr, a Thomas hefyd, ar 30 Ionawr. Claddwyd hwy ym mynwent Tamatave ar arfordir orllewinol Madagasgar.

Mae Mary Bevan yn cael ei chofio hyd heddiw fel un o'r cenhadon a ddaeth â Christnogaeth i'r ynys, ac yn arbennig cyfraniad Thomas a hithau i'r gwaith o sefydlu'r ysgol gyntaf yno.

Cyfeiriadau

  1. Y Bygraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 13 Feb 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.