Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh poet and academic | |
A.K.A. | Llion Elis Jones | |
A.K.A. | Llion Elis Jones | |
Places | Wales | |
is | Academic Poet | |
Work field | Education Literature | |
Gender |
| |
Profiles | ||
Birth | 1964, Abergele, United Kingdom | |
Age | 61 years | |
Residence | Penrhosgarnedd, United Kingdom |
Biography
Mae Llion Elis Jones (ganwyd 1964) yn brifardd, beirniad ac academydd. Magwyd ef yn Abergele ond mae bellach yn byw ym Mhenrhosgarnedd. Ef yw Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau, technoleg ac ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor a datblygu adnoddau technoleg iaith yn y Gymraeg.
Barddoni
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a'r Cylch 2000 am ei gerdd, Rhithiau o dan y llysenw, 'Di-lycs'. Mae hefyd yn golofnwyr rheolaidd i'r cylchgrawn farddonol, Barddas a sylfaenydd a golygydd gwefan farddoniaeth 'Yr Annedd' bu'n rhedeg rhwng 1998-2018.
Mae Llion Jones yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd llwyddiannus, Caernarfon.
Cyhoeddidau
Mae wedi cyhoedd tri chasgliad o gerddi, sef:
- Pethe Achlysurol Cyhoeddiadau Barddas, 2007, ISBN: 9781906396022
- Trydar mewn Trawiadau, Cyhoeddiadau Barddas, 2012 Rhif ISBN: 9781906396602
- Bardd ar y Bêl Cyhoeddiadau Barddas, 2016, ISBN: 9781906396961
Cyrhaeddodd Trydar mewn Trawiadau restr fer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2013 a chipio gwobr 'Barn y Bobl'.
Canu
Bu'n aelod o grŵp pop Eryr Wen yn yr 1980au. Enillodd y grŵp cystadleuaeth Cân i Gymru yn 1987 gyda'i cân, 'Gloria Tyrd Adre'. Ysgrifennodd hefyd geiriau i'r gân Nos Da Nostalgia pan oedd yn Fardd y Mis ar BBC Radio Cymru. a bu'n Trac yr Wythnos ar Radio Cymru ar wythnos 25-29 Ebrill 2016. Cenir y gân gan Cadi Gwen.
Dolenni
- Gwefan swyddogol
- Llion Jones ar Twitter
- Cân 'Nos Da Nostalgia', geiriau gan Llion Jones
- Canolfan Bedwyr
Cyfeiriadau
- ↑ Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol
- ↑ http://www.cynghanedd.com/
- ↑ http://www.llionjones.com/index.php/llyfryddiaeth
- ↑ http://www.llionjones.com/index.php/siop
- ↑ https://cy.wikipedia.org/wiki/Rhestr_Llyfrau_Cymraeg/Barddoniaeth
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=_2ONG7mA9u4
- ↑ http://www.llionjones.com/index.php
- ↑ https://www.bbc.co.uk/programmes/profiles/5D42NQBkSYJ3dtGKHGTXwrp/trac-yr-wythnos-cadi-gwen-nos-da-nostalgia
Awdurdod |
|
---|---|
Awdurdod |
|