Lewis Boddington
Welsh inventer and senior engineer at the Royal Aircraft Establishment
Dyfeisydd Cymreig oedd Lewis Boddington (13 Tachwedd 1907 – 7 Ionawr 1994), a ddyfeisiodd y bwrdd hedfan onglog ar gyfer llongau cludo awyrennau. Cyfranodd yn helaeth at gynllunio llongau megis yr Ark Royal, rhai ohonynt ar y cyd a'r UDA.
Bu'n gweithio am flynyddoedd o Farnborough yn Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, gan ddatblygu bwrdd llong a gludai awyrennau rhyfel, gan gynnwys bwrdd a alluogai i awyren heb olwynion lanio arni.