Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh astronomer | ||
Places | Wales | ||
was | Astronomer | ||
Work field | Science | ||
Gender |
| ||
Birth | 13 November 1915, Tredegar, Blaenau Gwent County Borough, Wales, United Kingdom | ||
Death | 26 July 1995 (aged 79 years) | ||
Star sign | Scorpio | ||
Notable Works |
|
Biography
Seryddwr amatur Cymreig oedd Kenneth Glyn Jones (13 Tachwedd 1915 – 26 Gorffennaf 1995). Enwyd asteroid ar ei ôl.
Bywgraffiad
Un o Dredegar oedd Jones. Ymunodd â'r RAF yn 1938 a thrwy'r Ail Ryfel Byd fel fforiwr ('navigator') ar un o'r awyrennau bomio. Ymunodd â BOAC yn 1964 gan ddod yn hyfforddwr technegol a oedd yn arbenigo mewn fforio-seryddol ('astro-navigation') a pherfformiad awyrennau. Ymddeolodd o gwmni British Airways yn 1974.
Cafodd ei ethol yn gymrawd y Gymdeithas Seryddol Brenhinol ar 14 Chwefror 1969.
Darganfu lawer o sêr newydd yng Ngalaeth Andromeda ac o'r herwydd fe'i anrhydeddwyd gan y gymuned seryddol ryngwladol drwy alw asteroid (5861) ar ei ôl: 5861 Glynjones.
Bu farw o drawiad i'r galon yn ei gartref yn Berkshire yn 79 oed ar 26 Gorffennaf 1995.