Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh photographer | |||
Places | United Kingdom | |||
was | Photographer | |||
Work field | Arts | |||
Gender |
| |||
Profiles | ||||
Birth | March 1958, Aberystwyth, United Kingdom | |||
Death | 5 October 2019Aberystwyth, United Kingdom (aged 61 years) | |||
Education |
|
Biography
Ffotograffydd o Gymro oedd Keith Morris (Mawrth 1958 – 5 Hydref 2019). Roedd yn adnabyddus am dynnu lluniau yng Nghymru ac yn enwedig am ddogfennu pobl a llefydd ei dref frodorol, Aberystwyth.
Bywyd cynnar ac addysg
Ganwyd Keith Thomas Morris yn Aberystwyth, yn fab i Mona a John (Jack). Roedd ganddo chwaer a brawd. Aeth i Brifysgol Caerwysg i astudio Daearyddiaeth, Economeg a Cynllunio Trefol ac Ysgol Economeg Llundain. Treuliodd gyfnod yng Nghaliffornia yng nghanol yr 1980au.
Gyrfa
Cychwynnodd ei yrfa ym myd y theatr, fel cynllunydd goleuo. Daeth yn ffotograffydd llawrydd, bron drwy ddamwain, yn yr 1980au cynnar. Bu'n gweithio i ystod eang o gyrff yn y meysydd cerddoriaeth, theatr, teledu, ffilm a newyddiaduraeth. Roedd hefyd yn tynnu lluniau portread a lluniau priodas. Roedd yn gyfrannwr cyson ar radio a theledu yng Nghymru yn sylwebu ar ffotograffiaeth a byd theatr. Daeth yn bresenoldeb cyfarwydd mewn Eisteddfodau, gwyliau a nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus yng Nghymru. Roedd yn gyn-gadeirydd Ffotogallery.
Tynnodd y llun ar gyfer clawr cyntaf y cylchgrawn Golwg yn 1988. Bu hefyd yn tynnu lluniau llyfrgell ar gyfer Photo Library Wales a cychwynodd gyfrannu i asiantaeth Alamy yn 2006. Drwy hynny gwerthwyd ei luniau i gyhoeddwyr ar draws y byd. Yn 2014 cyrhaeddodd werthiant o $250k drwy Alamy. Dywedir fod ei archif yn cynnwys dros filiwn o luniau yn ymestyn nôl i 1976.
Roedd ganddo brosiect personol yn tynnu lluniau o bawb gyda'r un enw ag ef yng Nghymru. Yn y 1990au roedd yn gyfrifol am ddatblygu y wefan 'Theatre in Wales', cyfeiriadur i gwmniau ac unigolion ym myd y theatr yng Nghymru, gyda adolygiadau personol o gynyrchiadau theatrig.
Yn 2008, roedd ei luniau o Aberystwyth yn gefndir i lyfr Aber: Ysgrifau am Aberystwyth gyda chwe ysgrif gan rai o drigolion y dre.
Bywyd personol
Heblaw am ei amser yn y coleg a'r amser yng Nghaliffornia, treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn Aberystwyth, yn y tŷ oedd yn berchen i'w ddadcu.
Roedd yn briod â Gilly ac roedd ganddynt ddwy ferch.
Marwolaeth
Cyhoeddwyd ar fore 5 Hydref 2019 fod Keith ar goll ers amser cinio 3 Hydref. Erbyn y prynhawn darganfuwyd corff ar draeth Borth, Ynyslas ac fe'i adnabyddwyd yn ffurfiol yn ddiweddarach. Cynhaliwyd angladd preifat iddo ar 17 Hydref lle gyrrwyd ei arch i'r amlosgfa yn eu fan campio VW. Am 4pm cynhaliwyd dathliad o'i fywyd yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Gwefan swyddogol
- Keith Morris ar Twitter
Awdurdod |
|
---|---|
Awdurdod |
|