Joseph Henry Wade

Welsh author and Anglican priest
The basics

Quick Facts

IntroWelsh author and Anglican priest
PlacesWales
isAuthor Priest Anglican priest
Gender
Male
Family
Siblings:George Woosung Wade
The details

Biography

Offeiriad Anglicanaidd ac awdur o Gymru oedd y Parchedig Joseph Henry Wade (1861 –22 Rhagfyr, 1943).

Cefndir

Ganwyd Wade yng Nghasnewydd yn blentyn i Joseph Henry Wade, meistr llong a Hannah (née Atkinson) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Trefynwy a Phrifysgol Caerdydd lle raddiodd gyda BA Prifysgol Llundain ym 1885 a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan lle enillodd gradd dosbarth cyntaf mewn Diwinyddiaeth ym 1887.

Gyrfa

Gwasanaethodd Wade fel offeiriad Eglwys Lloegr yn Altrincham yn Swydd Gaer, Kingsbury Episcopi, yng Ngwlad yr Haf a Colesford Swydd Caerloyw. Ymddeolodd o'i weinidogaeth ym 1914.

Yn ogystal a'i waith fel offeiriad bu Wade yn awdur nifer o lyfrau gan gynnwys:

  • Little Guide to Somerset (1907) (ar y cyd a'i frawd George Woosung Wade D.D.)
  • Little Guide to Monmouthshire (1909) (ar y cyd a'i frawd)
  • Little Guide to South Wales (1913) (ar y cyd a'i frawd)
  • Glamorganshire (Cambridge County Geographies) (1914)
  • Little Guide to Herefordshire (1917) (ar y cyd a'i frawd)
  • Rambles in Cornwall (1928)
  • Rambles in Devon (1930)

Teulu

Priododd Alice Josephine Crompton, yn Eglwys St. Bartholomew, Altrincham ym 1893, ni fu iddynt blant

Marwolaeth

Bu farw yn Weston-super-Mare yn 82 mlwydd oed.

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 21 Aug 2024. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.