Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh journalist and political correspondent | |||
Places | United Kingdom Wales | |||
was | Journalist Correspondent | |||
Work field | Journalism | |||
Gender |
| |||
Birth | 1951, Bangor, Gwynedd, Wales, United Kingdom | |||
Death | 12 March 2020Aberdare, Rhondda Cynon Taf, Wales, United Kingdom (aged 69 years) | |||
Education |
| |||
Employers |
|
Biography
Newyddiadurwr a gohebydd gwleidyddol oedd John Stevenson (1951 – 12 Mawrth 2020).
Bywyd cynnar ac addysg
Ganwyd John ym Mangor ac fe'i magwyd yn Llangoed ger Biwmares yn unig blentyn.
Aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor i astudio Hanes a Diwinyddiaeth. Ei fwriad oedd mynd yn bregethwr ac esboniodd mewn cyfweliad gyda Beti George yn 2000 mai ei gymhelliad oedd bod yn ganolbwynt sylw. Roedd yn gefnogwr o'r Blaid Lafur ac ei uchelgais oedd dilyn Cledwyn Hughes fel Aelod Seneddol Môn.
Gyrfa
Wedi'r brifysgol, cafodd swydd fel prif swyddog personnel gyda'r hen gyngor Arfon.
Ymunodd a BBC Cymru yng Nghaerdydd fel ymchwilydd ond roedd rhaid iddo adael 'dan gwmwl' oherwydd ei alcoholiaeth. Wedi cyfnod hir yn byw ar y stryd, cafodd gyfle gan Ann Clwyd, AS Cwm Cynon ar y pryd i weithio iddi fel ymchwilydd. Cafodd gyfle arall wedyn yn gweithio fel cynhyrchydd ar raglen Stondin Sulwyn ar BBC Radio Cymru yn 1997. Aeth ymlaen i weithio fel gohebydd gwleidyddol yn Llundain, yn adrodd ar storiau fel ymosodiad terfysgol 9/11. Ymddeolodd ym mis Mawrth 2013.
Bywyd personol
Roedd yn gwybod ei fod yn hoyw yn ŵr ifanc ond teimlodd y pwysau cymdeithasol yn yr 1970au i gydymffurfio, yn enwedig o geisio dilyn gyrfa wleidyddol. Priododd ar ôl gadael y brifysgol a chafodd blant. Datblygodd ei ddibyniaeth ar alcohol yn ystod ei ddyddiau coleg a cafodd effaith andwyol ar ei fywyd nes ymlaen. Treuliodd gyfnod yn ysbyty iechyd meddwl Dinbych, ond methu wnaeth y driniaeth. Yn ei hunangofiant mae'n disgrifio sut y treuliodd wyth mlynedd yn alcoholig digartref.
Yn 2017 symudodd i fyw yn Aberdâr gyda'i bartner Mark Turner. Roedd Stevenson wedi cael strôc yn flaenorol a chafodd ail un yn 2017. O ganlyniad fe ddirywiodd ei leferydd a’i symudedd, ac roedd ei bartner yn gofalu amdano’n llawn amser.
Cafwyd hyd iddo ef a'u bartner yn farw ar 12 Mawrth 2020. Yn 2022, cafwyd cwêst i'w farwolaeth a dywedodd y crwner ei bod hi’n “debygol” fod Stevenson wedi marw cyn 12 Mawrth, ond nad oedd modd cadarnhau hynny. Dywedodd ymhellach nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus, a’i bod hi’n debygol fod Stevenson wedi marw’n naturiol.
Gweler hefyd
- Ar fy Ngwaethaf - hunangofiant John Stevenson