Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | ���family bard’ at Nannau, near Dolgelley | |
Places | United Kingdom Wales | |
is | Writer Poet | |
Work field | Literature | |
Gender |
| |
Birth | Llanuwchllyn, Gwynedd, Wales, United Kingdom | |
Death | 1694 |
Biography
Un o'r olaf un o'r beirdd proffesiynol yng Nghymru oedd Siôn Dafydd Las neu John Davies (bu farw 1694).
Bywyd a gwaith
Yn ôl traddodiad, ganwyd y bardd ym mhlwyf Llanuwchllyn, Sir Feirionnydd, rywbryd cyn canol yr 16g. Gwyddys y bu'n byw yn ardal Penllyn am gyfnod cyn mynd yn fardd i deulu plas Nannau. Am hynny fe'i gelwir weithiau y bardd teulu olaf yng Nghymru, ond mewn gwirionedd tenau iawn yw'r cysylltiad rhyngddo â'r beirdd hynny, a ganai i osgorddion brenhinol yn yr Oesoedd Canol.
Ychydig iawn o'i waith sydd wedi goroesi. Cerddi ar y mesurau carolaidd poblogaidd yw'r unig enghreifftiau o'i waith sydd ar glawr. Ond roedd yn fardd proffesiynol, serch hynny, a fu un o'r rhai olaf i dderbyn nawdd am ei ganu gan deuluoedd uchelwrol. Ond am na chanodd ar y mesurau caeth, nid yw'n arfer ei gyfrif fel un o Feirdd yr Uchelwyr fel y cyfryw.
Roedd ganddo enw am fod yn dipyn o feddwyn: feddwai ac edifarhai am ei feddwdod yn barhaus. Ceir y gerdd 'Dyrïau ar Edifeirwch Meddwyn' ganddo yn y gyfrol Carolau a Dyrïau Dwyfol (1720).
Mae Ap Vychan yn sôn am Siôn Dafydd Las yn ei Hunangofiant ac yn dyfynnu rhai o'r englynion hyn
Parodd y boen a'r gwaew oedd yn ei ben ar ol yfed i ormodedd yn Nghorsygedol, iddo dywedyd bore drannoeth—
"Pen brol, pen lledffol, pen llaith,—pen dadwrdd,
Pen dwedyd yn helaeth:
Pen croch alw, pen crych eilwaith,
Pen a swn fel pennau saith.
"Pen chwyrn, pen terfyn wyt ti,—pen brenlwnc,
Pen barilo meddwi:
Pen rhydd, di 'menydd i mi,
Pen ffwdan—pa' na pheidi?"
Mae lle i gredu mai ef yw awdur y gainc boblogaidd 'Pant Corlan yr Å´yn'.
Cyfeiriadau
- ↑ Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1650 hyd 1850 (Lerpwl, 1893).
- ↑ Thomas (Ap Vychan), Robert (1903). . In Edwards, Owen Morgan (gol.). Gwaith ap Vychan. Llanuwchllyn: Ap Owen.