J. Ellis Williams

Welsh author, born 1901
The basics

Quick Facts

IntroWelsh author, born 1901
A.K.A.John Ellis Williams
A.K.A.John Ellis Williams
PlacesWales
wasWriter Playwright Author
Work fieldFilm, TV, Stage & Radio Literature
Gender
Male
Birth19 April 1901, Penmachno, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom
Death7 January 1975 (aged 73 years)
Star signAries
Education
Bangor Normal College
The details

Biography

Awdur a dramodydd Cymraeg oedd John Ellis Williams (19 Ebrill 1901 – 7 Ionawr 1975). Cyhoeddai dan yr enw J. Ellis Williams.

Bywgraffiad

Ganed ef ym mhentref Penmachno, ac addysgwyd ef yn Ysgol y Sir, Llanrwst. Hyfforddodd fel athro yng Ngholeg y Normal, Bangor, a bu'n dysgu ym Manceinion, Blaenau Ffestiniog a Llanfrothen cyn ymddeol yn 1961. Yn 1962, derbyniodd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, ac MBE.

Cyhoeddodd nifer fawr o nofelau, straeon byrion a dramâu, ac roedd yn gyfrannwr cyson i nifer o newyddiaduron. Cydweithredodd gyda Syr Ifan ab Owen Edwards i ysgrifennu a chynhyrchu y ffilm sain gyntaf yn Gymraeg, Y Chwarelwr, yn 1935. Ysgrifenodd nifer o lyfrau plant, yn cynnwys Haf a'i Ffrindiau (tri llyfr, 1929–1930) a Stori Mops (1952).

Roedd yn arloeswr y nofel dditectif yn Gymraeg, gan ysgrifennu dwy gyfres ohonynt, sef Cyfres Hopkyn a Chyfres Parri, gyda phum nofel yn y ddwy.

Llyfryddiaeth ddethol

Llyfrau

Llyfrau plant (detholiad)
  • Haf a'i Ffrindiau (tri llyfr, 1929-1930)
  • Stori Mops (1952)
Nofelau ditectif

1. Cyfres Hopkyn

  • Y Gadair Wag
  • Talu'r Pwyth
  • Y Gymwynas Olaf (1959)
  • Y Gwenith Gwyn
  • Llwybrau Cam

2. Cyfres Parri

  • Celwydd Golau
  • Y Trydydd Tro
  • Nos Galan
  • Gwerin Gwyddbwyll (1967)
  • Porth Ewyn

Astudiaethau

  • Meredydd Evans (gol.), Gŵr wrth Grefft: Cyfrol Deyrnged i J. Ellis Williams (Cyngor Llyfrau Cymraeg, 1974). Ceir llyfryddiaeth lawn yn y gyfrol hon.
  • Elfyn Pritchard, "John Ellis Williams", yn Dewiniaid Difyr: Llenorion Plant Cymru hyd tua 1950, gol. Mairwen a Gwynn Jones (Gwasg Gomer, 1983)

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 01 Aug 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.