Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
is | Journalist | ||
Work field | Journalism | ||
Gender |
| ||
Family |
|
Biography
Newyddiadurwr a chyflwynydd teledu a radio Cymreig yw Iolo ap Dafydd. Hyd at 2016 roedd yn Ohebydd Amgylchedd a Materion Gwledig BBC Cymru.
Daw ap Dafydd o Lanrwst, Dyffryn Conwy yn wreiddiol, ond bellach mae’n byw yng Nghaerdydd. Mae'n fab i'r awdur plant Dafydd Parri. Mae hefyd wedi treulio cyfnodau yn byw yng Ngwlad Belg, yr Iseldiroedd, Israel a Seland Newydd.
Graddiodd o Adran Gymraeg Prifysgol Cymru, Bangor. Bu'n gweithio fel ymchwilydd, is-gynhyrchydd a chyflwynydd rhai o raglenni HTV Cymru, Channel 4 ac S4C cyn ymuno â’r BBC ym 1993 fel Gohebydd Chwaraeon yn y Gymraeg ar raglen Newyddion BBC Cymru, ac fe’i enwebwyd â chanmoliaeth uchel ar gyfer gwobr BT Welsh Sports Journalist of the Year yn 2002. Aeth ymlaen i weithio fel gohebydd Ewropeaidd y BBC. Mae wedi cael y cyfle i adrodd y newyddion o bedwar ban y byd; o Efrog Newydd yn dilyn ymosodiadau 11 Medi, o Affganistan, Oman, Israel, Gwlad Iorddonen, Kuwait ac Irac, roedd yn gohebu o Hilla pan ddarganfuwyd y beddau torfol.
Ymunodd â thîm rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ar ddydd Gŵyl Dewi 2004, ac bu hefyd yn gohebu ar raglen Week In Week Out yn 2004.
Fe adawodd y BBC yn Ionawr 2016.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Iolo ap Dafydd ar Twitter