Ifan Morgan Jones

Welsh journalist and writer
The basics

Quick Facts

IntroWelsh journalist and writer
PlacesUnited Kingdom
isWriter Journalist
Work fieldJournalism Literature
Gender
Male
The details

Biography

Newyddiadurwr, darlithydd a nofelydd Cymraeg yw Ifan Morgan Jones sy'n enedigol o Waunfawr, Gwynedd ond sydd bellach yn byw ym Mhenrhiwllan ger Llandysul.

Enillodd ei lyfr Igam Ogam, Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008. Cyhoeddodd ddwy nofel arall, Yr Argraff Gyntaf yn 2010, a Dadeni yn 2017.

Bu'n Ohebydd a Dirprwy Olygydd ar gylchgrawn Golwg o fis Mai 2006 hyd ddiwedd 2008, ac yn Olygydd gwefan Golwg360 rhwng Ionawr 2009 a Medi 2011.

Mae bellach yn ddarlithydd yn adran Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor.

Cyfeiriadau



Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.