Hywel ab Einion Lygliw

Poet
The basics

Quick Facts

IntroPoet
isPoet
Work fieldLiterature
Gender
Male
The details

Biography

Bardd o'r 14g a gysylltir â Meirionnydd oedd Hywel ab Einion Lygliw (fl. 1330 - 1370). Roedd yn ewythr i Gruffudd Llwyd, un o feirdd mawr cyfnod Owain Glyn Dŵr.

Bywgraffiad

Ni wyddom fawr dim am fywyd y bardd. Ceir cofnod am ŵr o'r enw Einion Lygliw yn trigo yn nhrefgordd Rhiwedog, plwyf Llanfor, Meirionnydd yn 1292 a derbynir mai ef oedd tad Hywel, yn ôl pob tebyg. Roedd Einion yn aseswr treth lleol yn ardal Tal-y-bont, Meirionnydd yn 1318.

Cerdd

Dim ond un gerdd gan Hywel ab Einion Lygliw sydd wedi goroesi, ond mae ymhlith yr enwocaf o waith y Cywyddwyr, sef ei awdl foliant i Fyfanwy Fychan "o Gastell Ddinas Brân". Roedd y castell hwnnw yn adfail yng nghyfnod y bardd ac ymddengys mai Myfanwy ferch Iorwerth Ddu o Langollen oedd y ferch mae Hywel ab Einion Lygliw yn anfon march yn llatai iddi. Priododd Myfanwy â Goronwy ap Tudur Fychan o linach Penmynydd a cheir sawl cerdd gan y beirdd iddi hi a'i gŵr. Mae beddfaen alabaster cerfiedig Goronwy Fychan, a fu farw yn 1382, gyda delwau ef a'i wraig Myfanwy, i'w weld yn eglwys plwyf Penmynydd, sydd wedi ei chysegru i Sant Gredifael.

Argraffwyd y gerdd gan Hywel ab Einion Lygliw yn y Myvyrian Archaiology of Wales (1801) a daeth â hi i amlygrwydd cenedlaethol. Dyma'r ysbrydoliaeth i'r gerdd boblogaidd 'Myfanwy Fychan' gan Ceiriog. Ceir cyfieithiad Saesneg o'r gerdd gan Thomas Pennant yn ei Tours in Wales hefyd, a sicrhaodd ei fod yn destun adnabyddus i hynafiaethwyr yng Nghymru a'r tu hwnt.

Llyfryddiaeth

  • Rhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill (Aberystwyth, 2000).

Cyfeiriadau


The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 25 Jun 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.