Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh poet, fl. 1550 | |
Places | Wales | |
was | Poet | |
Work field | Literature | |
Gender |
| |
Birth | 1542, Trefeglwys, Powys, Wales, United Kingdom | |
Death | 1578 (aged 36 years) |
Biography
Roedd Huw Arwystli (fl. 1542-1578) yn fardd canol oesol o blwyf Trefeglwys yng nghantref Arwystli, Sir Drefaldwyn. Mae tua chant a hanner o'i gerddi ar gadw yn Y Llyfrgell Genedlaethol, Archif Prifysgol Bangor a'r Amgueddfa Brydeinig.
Yn ôl y traddodiad roedd Huw yn ddyn cloff tlawd digartref, rhyw noson aeth i gysgu yn Eglwys Llandinam; wrth gysgu teimlodd bod rhywun wedi dod ato ac wedi gosod rhywbeth yn ei ben. Y bore wedyn derbyniodd cardod gan fenyw ac fe ddiolchodd iddi efo englyn cywrain, er na chanodd llinell o gan gynt; yr hyn oedd wedi ei brofi yn y nos oedd Duw yn rhoi dawn y bardd yn ei ben. Wedi hynny bu'n un o feirdd gorau a mwyaf toreithiog ei oes ac yn cael ei dderbyn i neuaddau'r uchelwyr i ganu iddynt a derbyn eu nawdd.
Er ei fod wedi derbyn ei ddawn i ganu trwy wyrth mewn eglwys, doedd hynny ddim yn rhwystr iddo ddefnyddio ei ddawn i ganu maswedd, gan gynnwys, o bosib, y gerdd hoyw cyntaf yn y Gymraeg Mab wedi ymwisgo mewn Dillad Merch (er bod rhai yn awgrymu mae gwawdio actor yn chware rôl merch ydyw yn hytrach na dyn yn draws wisgo am resymau nwydus).