Hugh Williams

Welsh printer and journalist
The basics

Quick Facts

IntroWelsh printer and journalist
A.K.A.Cadfan
A.K.A.Cadfan
PlacesWales
wasPrinter Journalist
Work fieldBusiness Journalism
Gender
Male
Birth1807, Bryncrug, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Death11 July 1870Rhyl, Denbighshire, Wales, United Kingdom (aged 63 years)
The details

Biography

Argraffydd a newyddiadurwr oedd Hugh Williams (1807 – 11 Gorffennaf 1870). Daeth yn enwog fel ysgrifennwr talentog ac amddiffynnydd yr Eglwys, ac roedd yn ysgrifennu o dan y ffugenw Cadfan.

Bywyd

Cafodd ei eni ym Mryncrug, ger Tywyn, yn Sir Feirionnydd. Roedd o wedi gwneud prentisiaeth o dan yr argraffydd o Ddolgellau Richard Jones cyn dechrau argraffu a golygu papur Eglwys Loegr o'r enw Y Cymro yn Ionawr 1848. Trosglwyddodd perchenogaeth y papur i Mr. Shone yn 1849 ond parhaodd i olygu'r papur tan Hydref 1850. Ar ôl hyn, aeth Cadfan i Lundain. Roedd yn ffrind i John Jones (Talhaiarn) a William Jones (Gwrgant) ac roedd yn gweithredu fel ysgrifennydd i'r 'Cronfa Blwydd-dâl Talhaiarn’ yn ystod 1863 i 1865. Roedd o hefyd yn warden yr Eglwys Anglicanaidd Cymraeg yn Llundain am lawer o flynyddoedd. Yn 1870, roedd o wedi cael ei dewis fel golygydd cyntaf o bapur Eglwys Cymraeg, Y Dywysogaeth, a oedd yn cael ei chyhoeddi yn Rhyl.

Bu farw yn 1870.

Ffynonellau

  • Bye–Gones, relating to Wales and the Border Counties, 1897, 45, 64, a 162-3;
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the *present (1908);
  • T. M. Jones, Llenyddiaeth fy Ngwlad (1893), 20;
  • Yr Haul, 1870, 256;
  • Baner ac Amserau Cymru, 20 Gorffennaf 1870;
  • Cardiff Free Libraries: Catalogue of Printed Literature in the Welsh Department (1898), 517;
  • NLW MSS 4511, 9276 (431).

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 16 Feb 2024. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.