Hugh Reveley

dirprwy raglaw ac Uchel Siryf Sir Feirionnydd
The basics

Quick Facts

Introdirprwy raglaw ac Uchel Siryf Sir Feirionnydd
wasLandowner
Gender
Male
Birth15 July 1772, Camberwell
Death9 November 1851 (aged 79 years)
ResidenceDolgellau
The details

Biography

Plasdy newydd Bryn y Gwin

Roedd Hugh Reveley (15 Gorffennaf 1772 - 9 Tachwedd 1851) yn was sifil Seisnig a thirfeddiannwr yn Sir Feirionnydd.

Ganwyd Reveley yn Camberwell, Surrey yn fab i Hugh Reveley, casglwr trethi, a 'i wraig, Jane, merch Phillip Champion de Crespingny.

Cafodd ei addysgu yn Eglwys Crist, Rhydychen gan ymuno a'r coleg ym 1791 a graddio fel Baglor y Gyfraith Cyffredin ym 1799.

Hen blasdy Bryn y Gwin

Bu'n gweithio fel ysgrifennydd Syr John Mitford, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin a phan dyrchafwyd Mitford i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Redesdale a changhellor yr Iwerddon gwasanaethodd Reveley fel ceidwad ei bwrs (trysorydd / cyfrifydd y Canghellor)

Ym 1803 priododd Jane unig ferch ac etifedd Robert Hartley Owen, Bryn y Gwin, Dolgellau a thrwy hynny daeth yn berchennog y plasty a'i ystâd o 66 cyfer. Bu iddynt fab, Hugh John Reveley, a merch Jane Frances. Yn fuan wedi'r briodas cychwynnwyd ar y gwaith o adeiladu plasty newydd Bryn y Gwin.

Gwasanaethodd fel Ynad heddwch ar fainc Meirionnydd, fel dirprwy raglaw'r sir ac fel Uchel Siryf Sir Feirionnydd ym 1811.

Bu farw ym Mryn y Gwin yn 80 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Mair Dolgellau

Cyfeiriadau

  1. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad Dolgellau 1851 HO107/2511 Ffolio 295 tud 13
  2. https://en.wikisource.org/wiki/Page:Alumni_Oxoniensis_(1715-1886)_volume_3.djvu/424
  3. A Genealogical and Heraldic History of the Commoners of Great Britain and Ireland, Enjoying Territorial Possessions Or High Official Rank: But Univested with Heritable Honours, Volume 3 John Burke 1836)
  4. Listed Buildings, Bryn y Gwin Isaf
  5. "Family Notices - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1851-11-20. Adalwyd 2016-06-22. 
  6. Cymdeithas Hanes Teuluoedd Meirionnydd, Adysgrifau Cerrig Coffa mynwent Eglwys Santes Fair Dolgellau rhif 639
The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 20 Aug 2019. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.