Hugh Owen

Welsh poet and historian
The basics

Quick Facts

IntroWelsh poet and historian
PlacesUnited Kingdom
wasPoet Historian
Work fieldLiterature Social science
Gender
Male
Birth1835, Cemaes, Anglesey, Isle of Anglesey, United Kingdom
Death21 September 1892Anglesey, Isle of Anglesey, Wales, United Kingdom (aged 57 years)
The details

Biography

Am bobl eraill o'r un enw gweler Hugh Owen.

Hanesydd Cymreig a bardd Cymraeg oedd Hugh Owen (1835 - 21 Medi, 1892). Roedd yn adnabyddus wrth ei enw barddol Huwco Môn. Roedd yn frodor o Ynys Môn ac yn arbenigwr ar hanes ei sir enedigol, Sir Fôn.

Bywgraffiad

Ganed Hugh yng Nghemaes ym mhlwyf Llanbadrig yn Sir Fôn yn 1835. Ni chafodd lawer o addysg ffurfiol ond ymroes i addysgu ei hun i safon da. Am gyfnod pan yn ieuanc bu'n pregethu gyda'r Annibynwyr.

Cyfranodd lawer o erthyglau ar hanes a hynafiaethau Cymru i'r cylchgronau Cymraeg. Roedd yn fardd yn ogystal. Fe'i cofir yn bennaf am ei gyfrol ar hanes plwyfi Cemaes, Llanfechell, Llanbabo, Cemlyn, Llanfair-yng-Nghornwy, Tregele a Charreglefn a gyhoeddwyd yn 1890.

Bu farw ar y 21ain o Fedi 1892; claddwyd ef ym mynwent Llanbadrig, Sir Fôn.

Llyfryddiaeth

  • Henafiaethau Cemaes, Llanfechell, Llanbabo, Cemlyn, Llanfair-yng-Nghornwy, Tregele a Charreglefn (1890)

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

  • Rhestr awduron Cymraeg (1600–heddiw)
The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 14 Jul 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.