Biography
Also Viewed
Quick Facts
Intro | (1820-1899) | ||||
Gender |
| ||||
Birth | 1820 | ||||
Death | 23 February 1899 (aged 79 years) | ||||
Family |
|
Biography
Bargyfreithiwr a gwas sifil o Loegr oedd Henry Robert Vaughan Johnson (30 Ionawr 1820 – 23 Chwefror 1899). Mae'n adnabyddus fel un o'r tri chomisiynydd a oedd yn gyfrifol am yr adroddiad Inquiry into the State of Popular Education in Wales (1847) – y Llyfrau Gleision drwg-enwog.
Fe'i ganwyd yn Burton Latimer, Swydd Northampton, yn fab i'r Parch. John Johnson, rheithor Yaxham, Norfolk. Astudiodd yn Ysgol Sherborne ac yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt (1827–32). Cafodd ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn, Llundain, ym 1848.
Yn 1846 fe'i penodwyd, gyda Jelinger Cookson Symons a Ralph Robert Wheeler Lingen – dau fargyfreithiwr arall o Loegr – yn gomisiynydd ymchwiliad seneddol i gyflwr addysg yng Nghymru. Ar adeg pan oedd mwyafrif y boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg roedd y tri chomisiynydd yn siaradwyr Saesneg uniaith. Roeddent yn dibynnu i raddau helaeth ar dystiolaeth unochrog gan dirfeddianwyr a chlerigwyr Anglicanaidd a ddifenwasant iaith, addysg a moesoldeb y Cymry Cymraeg. Arweiniodd adroddiad y comisiynwyr – a gyhoeddwyd mewn cloriau glas ym 1847 – at ddicter yng Nghymru, a daeth y mater yn adnabyddus fel Brad y Llyfrau Gleision.
Ym 1859 fe'i penodwyd yn Gyd-ysgrifennydd i'r Arglwydd Ganghellor, ac yn ddiweddarach daliodd amryw swyddi yn ymwneud â gweinyddu cyfiawnder.