Biography
Filmography (9)
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh actor, director and scriptwriter | ||||||
Places | United Kingdom | ||||||
is | Actor Screenwriter Film director | ||||||
Work field | Film, TV, Stage & Radio | ||||||
Gender |
| ||||||
Birth | 1989, Cardiff, Cardiff, Wales, United Kingdom | ||||||
Age | 36 years | ||||||
Family |
| ||||||
Education |
|
Biography
Actor, cyfarwyddwr ac awdur o Gymraes yw Hanna Jarman (ganwyd 1989). Mae'n adnabyddus am greu a serennu yn y gyfres Merched Parchus.
Bywgraffiad
Magwyd Hanna Caron Jarman yng Nghaerdydd, yn ferch i Nia Caron a Geraint Jarman. Ei chwaer iau yw'r actores Mared Jarman.
Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2011.
Gyrfa
Ers graddio mae Hanna wedi cydweithio'n agos â chwmnïau fel Not Too Tame Theatre yn gweithio i ddyfeisio a chreu theatr hygyrch "i bawb”.
Roedd yn gyfranogwr diweddar ar gynllun cyfarwyddo 'Y Labordy' a gefnogir gan Ffilm Cymru Wales, S4C, Cyngor Celfyddydau Cymru a BFI.NETwork ac ei mentor oedd yr awdur / cyfarwyddwr / actor Desiree Akhavan.
Cyfarwyddodd y ffilm fer Nyrs Smith ar gyfer It's My Shout, sef cynllun hyfforddi ffilm fer BBC Wales / S4C, yn ogystal â sioe theatr Rhybudd: Iaith Anweddus gan yr awdur Llwyd Owen ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018.
Mae hi hefyd yn datblygu a ysgrifennu ffilm fer Ffantasmagoria, gyda’i chwaer Mared Jarman, gyda cymorth Cynhyrchiadau ie ie a Ffilm Cymru Wales.
Cyd-greodd ac ysgrifennodd y gyfres ddrama ddwyieithiog Merched Parchus gyda Mari Beard, ar gyfer S4C. Mae Hanna a Mari hefyd yn serennu yn y gyfres.
Yn 2021 ymddangosodd yn Yr Amgueddfa, cyfres ddrama gan Fflur Dafydd.
Ffilmyddiaeth
Ffilm a theledu
Teitl | Blwyddyn | Rhan | Cwmni Cynhyrchu | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
Pen Talar | 2010 | Miriam | Fiction Factory | |
Zanzibar | 2012 | Gwenno | Rondo | |
Reit Tu Ôl I Ti | 2013 | Ceri | S4C | |
Tinga Tinga | 2014 | Amrywiol (llais) | Cwmni Da | |
FM | 2014 | Jen | Rondo | |
Bob & Marianne | 2015 | Alys | S4C | |
Chwarter Call | 2015-2016 | Amrywiol | Boom Cymru | |
Pili Pala | 2018 | DC Lisa Holt | Triongl | |
Merched Parchus | 2019 | Carys | Ie Ie Productions | |
Baich | 2019 | Kath | Severn Screen | |
Ffilmiau Ddoe | 2020 | Gwestai | Cwmni Da, Unigryw | Pennod 3 |
Yr Amgueddfa | 2021 | Sadie | Boom Cymru |
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Hanna Jarman ar wefan Internet Movie Database
- Hanna Jarman ar Twitter