Biography
Gallery (1)
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Educationalist and language campaigner | |||
Places | Wales United Kingdom | |||
was | Educator Teacher Activist | |||
Work field | Academia Activism | |||
Gender |
| |||
Birth | 1 August 1904, Bryn, Neath Port Talbot County Borough, Wales, United Kingdom | |||
Death | 31 October 1960Bangor, Gwynedd, Wales, United Kingdom (aged 56 years) | |||
Star sign | Leo | |||
Education |
|
Biography
Roedd Gwyn M. Daniel enw llawn, Gwynfryn Morgan Daniel (1 Awst 1904 - 31 Hydref 1960) yn athro ac ymgyrchydd dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ac yn genedlaethol. Ef hefyd oedd Ysgrifennydd Cyffredinol gyntaf Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ac Ysgrifennydd gyntaf Rhieni Dros Addysg Gymraeg.
Cefndir a Gyrfa
Ganed Gwyn M. Daniel ym mhentre'r Bryn, Port Talbot. Yn dilyn addysg yn Ysgol Pentre Bryn, ac yn Ysgol Sir y Bechgyn, Port Talbot, aeth yn fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth lle cyfarfu â'i ddarpar briod Annie Evans o Ystrad, Rhondda. Priododd y ddau ym 1936 a ymgartrefu yng Nghaerdydd lle ganwyd iddynt dair merch, Nia, Ethni a Lona. Tra'n fyfyriwr yn Aberystwyth, bu'n ganolwr yn nhim rygbi'r Coleg. Yn ddiweddarach, bu ef a'i gyfaill Eic Davies (1909 - 1993) yn bathu termau rygbi, termau a ddaeth yn rhan naturiol o drafod a sylwebaeth rygbi Cymru.
Ym 1932, fe apwyntiwyd ef ac eraill yn athrawon Cymraeg yn ysgolion Caerdydd. Lleolwyd e yn Ysgol y Grange ac Ysgol Herbert Thompson yn Nhrelai.
Diswyddwyd Daniel gan Bwyllgor Addysg Caerdydd oherwydd ei safiad fel Gwrthwynebydd Cydwybodol adeg yr Ail Ryfel Byd. Wedi cyfnod fel clerc cafodd swydd gan Bwyllgor Addysg Morgannwg yn Ysgol Cogan, Penarth. Ym 1952, apwyntiwyd e yn brifathro ysgol gynradd Gwaelod-y-garth.
Gweithgaredd
Rhwng 1934 a 1937 bu Gwyn Daniel yn Lywydd Cylch Ysgolion Elfennol Caerdydd Urdd Gobaith Cymru. Yn 1937 roedd yn Ysgrifennydd Adran Athletau Mabolgampau Cenedlaethol yr Urdd yn Stadiwm Maendy, Caerdydd gyda'r bechgyn buddugol yn teithio i Wembley.
Yn 1939 daeth ef yn Ysgrifennydd Caerdydd y Ddeiseb Genedlaethol dros Ymgyrch Senedd i Gymru.
Ymgyrchu dros Addysg Gymraeg
Bu i Gwyn Daniel sefydlu Uwch Aelwyd yr Urdd yng Nghaerdydd yn yr 1930au cynnar a fyddai'n cwrdd ar nos Wener.
Yn 1936-37 arweiniodd Gwyn M. Daniel ymgyrch dros sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd yn Nhŷ'r Cymry. Yn sgil y Rhyfel gwrthwynebiad y Arglwydd Faer Caerdydd a fynnai mai cyfrifoldeb Pwyllgor Addysg y Ddinas oedd sefydlu pob ysgol, aeth Daniel a'i gyd-ymgyrchwyr ati i sefydlu Ysgol Fore Sadwrn cyfrwng Gymraeg a gynhaliwyd yn Nhŷ'r Cymry yn Heol Gordon, y Rhâth, Caerdydd. Ceisiwyd agor ysgol Gymraeg breifat yn 1940 (ar sail debyg i Ysgol Gymraeg Aberystwyth a agorwyd ar hyd yr un llinellau ym mis Medi 1939), ond bu'n rhaid hepgor y bwriad gan bod gymaint o'r plant wedi eu hel o Gaerdydd i'r cefn gwlad fel efaciwis. Cychwynnwyd ar yr ysgol yn 1943 gan barhau i weithredu drwy gydol yr Ail Ryfel Byd nes 1947.
Oherwydd llwyddiant a rhwydwaith sefydlu'r Ysgol Sadwrn, gwelwyd sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg Caerdydd yn 1949. Dyma oedd y drydedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru (ar ôl Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli). Roedd yr ysgol wreiddiol hon mewn dwy ystafell ddosbarth yn Ysgol Saesneg Ninian Park yn ardal Grangetown o Gaerdydd. Maes o law, symudwyd yr ysgol i safle yn ardal Highfields, Llandaf, gan newid yr enw am un daearyddol, Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf.
Sefydlu UCAC
Gwyn M. Daniel oedd Ysgrifennydd Cyffredinol gyntaf Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ac roedd ymhlith y sefydlwyr, yn Nhŷ'r Cymry, ar 6 Rhagfyr 1940. Sefydlwyd y mudiad chwyldroadol hwn wedi cyfnod hir o rwydweithio, llythyru a theithio Cymru, gan Daniel ac eraill. Bathwyd yr enw Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ac nid Undeb Athrawon Cymru gan bod eisoes mudiad o'r enw hwnnw'n bodoli, nad oedd yn undeb. Cytunodd UAC i'r enw.
Gwyn Daniel oedd hefyd cadeirydd cyntaf mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg.
Personol
Roedd Gwyn Daniel ac Annie yn rhieni i dair merch; Nia (Royles bellach), Ethni (Jones bellach), a Lona (Roberts bellach). Roeddent ymysg disgyblion cyntaf yr Ysgol Fore Sadwrn ac Ysgol Bryntaf. Bu farw Gwyn ar 31 Hydref 1960 ym Mangor, o drawiad ar y galon, tra ar daith dros UCAC. Fel eu tad, bu plant Gwyn Daniel hefyd yn frwd a gweithgar dros y Gymraeg ac addysg Gymraeg. Daeth Ethni yn athrawes ieithoedd a bu hi'n brwydro dros addysg Gymraeg i'w mab, Garmon, oedd ag anghenion arbennig. Bu’n allweddol yn sefydlu uned arbennig yn Ysgol Gynradd Gymraeg Coed-y-Gof a hynny yn wyneb gwrthwynebiad yr awdurdodau. Roedd Ethni hefyd ymhlith athrawon cyntaf Caerdydd y cwrs dysgu Cymraeg, Wlpan, a ysbrydolwyd o Israel, yn yr 1970au.
Gŵr Ethni, a mab yng nghyfraith Gwyn M. Daniel, yw Michael Jones, ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg yn ardal Caerdydd a chynghorydd cyfreithiol RhAG. Ysgrifennodd Michael Jones lyfr a gyhoeddwyd gan RhAG, Twf addysg Gymraeg yng Nghymru: 2012-2020, gan gloriannu peth o ymdrech Gwyn M. Daniel dros addysg Gymraeg.
Cyhoeddiadau
- Daearyddiaeth i blant, Cyhoeddwr: Llyfrau'r Castell, 1949
- This Land is Mine: An Address Delivered to the British Czechoslovak Club Pamffled, darlith draddodwyd ar 9 Medi 1943
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- Gwefan Swyddogol UCAC
- Cronoleg Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ers 1940 Erthygl yn Y Dinesydd, Mehefin 2018, gan Michael Jones, mab yng nghyfraith Gwyn M. Daniel
- 'Parents, Personalities and Power: Welsh-medium Schools in South-east Wales' e-gyhoeddiad o ddiddordeb cyffredinol
Cyfeiriadau
- ↑ "Tŷ'r Cymry yn 70 oed". Y Dinesydd. Ebrill 2006.
- ↑ Jones, Michael (Mehefin 2018). "Cronoleg Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ers 1940". Y Dinesydd.
- ↑ "Records of Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC), 1937-93". JISC Archives Hub.
- ↑ "Amdanom ni Amcanion a hanes". Gwefan UCAC.
- ↑ "Amdanom ni Amcanion a hanes". Gwefan UCAC.
- ↑ "Cofio athrawes wnaeth "ysbrydoli cannoedd o'i disgyblion i garu Cymru a'r Gymraeg"". Golwg360. 2020-08-11.
- ↑ "Eight South Wales councils 'lagging behind' in Welsh school provision". Wales Online. 2011-09-29.