Gwyddelan
Sant o'r 6g a gysylltir â Gwynedd a Phowys
Intro | Sant o'r 6g a gysylltir â Gwynedd a Phowys | |
Places | Wales United Kingdom | |
Gender |
| |
Birth | Gwynedd, Wales, United Kingdom |
Sant a gysylltir â Gwynedd a Phowys oedd Gwyddelan (fl. 6g efallai). Dethlir ei wylmabsant ar 22 Awst.
Ychydig a wyddys amdano. Yn ôl 'Achau Saint Ynys Prydain', sefydlodd eglwys Dolwyddelan, yn Nyffryn Lledr (sir Conwy heddiw), ond ni cheir ei linach. Fe'i cysylltir ag eglwys Llanwyddelan ym Mhowys yn ogystal.
Yn eglwys Dolwyddelan cedwid Cloch Wyddelan, cloch efydd o batrwm Celtaidd sydd erbyn hyn yng Nghastell Gwydir, Dyffryn Conwy.
Ceir peth ansicrwydd ynglŷn â'r sant hwn. Mae'n bosibl fod ei hanes wedi ei gymysgu â hanes sant arall, Lorcan Wyddel. Yn achos yr eglwys ym Mhowys, mae rhai ffynonellau yn ei chysylltu â Gwenddolau.