Gwenan Gibbard

muzikant
The basics

Quick Facts

Intromuzikant
isMusician
Work fieldMusic
Gender
Female
The details

Biography

Gwenan Gibbard yng Ngŵyl Tegeingl, 2012

Telynores a chantores sy'n canu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yw Gwenan Gibbard. Ganwyd hi yn ardal Pwllheli, Gwynedd. Wedi graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor a chwblhau gradd feistr yno mewn perfformio ac ymchwil ym maes cerddoriaeth Cymru, aeth i Lundain i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol.

Bu'n enillydd ym mhrif gystadlaethau telyn a chanu'r Eisteddfod Genedlaethol, Yr Ŵyl Gerdd Dant a'r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon, a bu'n cynrychioli Cymru mewn gwyliau megis Gŵyl Lorient yn Llydaw, Cyngres Delynau'r Byd yn Nulyn, Gŵyl Delynau Ryngwladol yng Nghaeredin, Celtic Connections, Glasgow a Gŵyl Gymreig Gogledd America, Cincinnati.

Mae ganddi ddau gryno ddisg ar label Sain, Y Gwenith Gwynnaf a Sidan Glas.

Disgyddiaeth

Prif erthygl: Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Gwenan Gibbard

Cyfeiriadau

  1.  Eryl Crump (11 Hydref 2007). Gwenan taking music to Canada. The Daily Post.

Dolen allanol

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 31 Jul 2019. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.