Gareth W. Williams
Welsh author
Intro | Welsh author | |
Places | United Kingdom Wales | |
is | Writer | |
Work field | Literature | |
Gender |
|
Awdur o Gymro yw Gareth W. Williams, sy'n wreiddiol o’r Rhyl ond bellach yn byw yn Nelson, Caerffili. Bu’n gweithio ym myd addysg tan iddo ymddeol a throdd at ysgrifennu o ddifrif.
Mae ei drioleg o nofelau trosedd Y Teyrn, Y Llinach ac Yr Eryr (cyhoeddwyd 2013–18) yn sôn am fygythiadau allanol i’r gymdeithas Gymraeg a Chymreig. Maen nhw wedi eu gosod mewn tref fechan glan y môr, ac yn dilyn hanes Arthur Goss, ditectif sy wedi ymddeol ond sy am dreiddio i hanfod y gymdeithas ac mae’r hanesion yn dilyn ei gilydd dros gyfnod o rhyw ddwy flynedd.