Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh educationalist | |
Places | United Kingdom | |
was | Teacher | |
Work field | Academia | |
Gender |
| |
Birth | 1896, Swansea, United Kingdom | |
Death | 1981 (aged 85 years) | |
Residence | Newport, United Kingdom; Barry, United Kingdom; Homerton College, United Kingdom; Dudley, United Kingdom; Solihull, United Kingdom |
Biography
Roedd Flora Forster yn addysgwraig ac yn awdur. Fe'i ganwyd yn St Thomas, Abertawe yn 1896, yn ferch i Joseph ac Alice Forster. Peiriannydd ar y rheilffyrdd oedd Joseph Forster, ac roedd yn ddisgynnydd i Jonathan Forster o Wylam, un o ddyfeiswyr yr injan stêm gynnar 'Puffing Billy'. Erbyn 1911 roedd y teulu'n byw yn Penmaen Terrace uwchlaw yr Uplands yn Abertawe.
Addysg
Aeth Flora i Ysgol Dynevor yn y dre ac yn 1915 dyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth Mary Ewart i astudio Saesneg am dair blynedd yng Ngholeg Somerville, Rhydychen. Un o'i chyfoedion yno, a ffrind iddi weddill ei hoes, oedd Margaret Kennedy, a aeth yn ei blaen i greu cryn argraff yn y 1920au gyda'i nofel The Constant Nymph. Daeth hefyd ar draws myfyriwr hŷn o Rydcymerau yn Sir Gaerfyrddin, D. J. Williams, a bu cyfeillgarwch a gohebiaeth rhwng y ddau hyd at 1925. Cedwir yr ohebiaeth yng Nghasgliad D. J. Williams yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gwrthododd gynigion gan D. J. Williams i'w phriodi.
Llenydda
Dangosodd Flora Forster addewid fel bardd yn ystod ei chyfnod yn Rhydychen, a chyhoeddwyd ei thelyneg 'Ducklington' yn Oxford Poetry yn 1917, gan dderbyn cymeradwyaeth Aldous Huxley. Dechreuodd ysgrifennu straeon i blant, a chyhoeddwyd y gyfrol Brown de Bracken gyda darluniau gan Gabriel Pippet gan Blackwell yn 1922. Troswyd un stori i'r Gymraeg gan D. J. Williams fel 'Llwyd y Rhedyn' a'i chyhoeddi yn Cymru'r Plant yn 1923. Cyhoeddodd Flora Forster ambell stori arall mewn casgliadau. Un o'r pethau mwyaf gwerthfawr yn yr ohebiaeth rhyngddi a D. J. Williams yw'r modd y maent yn trafod llenyddiaeth y dydd a meysydd llafur yr ysgolion.
Gyrfa: athrawes, darlithydd, prifathrawes
Ar ôl graddio yn 1918 cafodd swydd yn dysgu Saesneg a Lladin yn Newport High School yng Nghasnewydd. Yn 1920 fe'i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg y Barri. Aeth wedyn i swydd yng Ngholeg Homerton, Caergrawnt, coleg hyfforddi, yn 1922 a'r flwyddyn ganlynol fe'i penodwyd i swydd arall mewn coleg hyfforddi yn Dudley, Canolbarth Lloegr. Pan sefydlwyd ysgol uwchradd newydd i ferched yn Malvern Hall, Solihull, yn 1931 fe'i penodwyd yn brifathrawes gan ddal y swydd yn Solihull High School for Girls hyd at ei hymddeoliad yn 1961. Roedd yn uchel iawn ei pharch yn yr ardal a chynigir ysgoloriaeth yn ei henw o hyd (2018) i fyfyrwyr yng nghylch Solihull. Bu farw yn 1981.
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
Flora Forster, Brown de Bracken (1922)
Gwybodaeth fywgraffyddol yn seiliedig ar dystiolaeth Cyfrifiad 1911, y llythyrau yng Nghasgliad D. J. Williams a gwybodaeth a dderbyniwyd gan Adran Treftadaeth Cyngor Solihull.