Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh coach tour operator and local politician | |
Places | United Kingdom Wales | |
was | Businessperson | |
Work field | Business | |
Gender |
| |
Birth | 8 November 1882, Betws Lleucu, Ceredigion, Wales, United Kingdom | |
Death | 24 July 1965London, Kingdom of Wessex, UK (aged 82 years) | |
Star sign | Scorpio |
Biography
Gŵr busnes oedd Evan Evans (8 Tachwedd 1882 - 24 Gorffennaf 1965). Cafodd ei eni ym Metws Leucu, Ceredigion yn fab hynaf Elizabeth Evans. Pan oedd yn bymtheg oed, aeth i weithio yn siop laeth ei gefnder yn Marylebone, Llundain. Ei unig iaith oedd Cymraeg, felly aeth i wersi nos i ddysgu Saesneg.
Pan oedd yn ugain oed, roedd e’n berchen ar siop laeth ei hun, fferm, gwesty a busnes gwerthu ceir. Sefydlodd gwmni twristiaeth Evan Evans Tours Ltd yn 1933.
Yn 1933, rhoddodd hysbyseb ym mhapur newydd Cymry Llundain Y Ddolen i werthu tocynnau ar ei awyren ef o Lundain i Sioe Llangeitho.
Priododd Nancy Meurig Davies yn 1936. Rhwng 1939 a 1941 roedd yr Henadur Evan Evans yn faer ar arldal St Pancras, Llundain.
Urddwyd ef i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1964, a'i enw barddol oedd Ifan Gwynfil.
Bu farw yn 1965 ac fe’i gladdwyd yn mynwent Capel Gwynfil, Llangeitho.