Emyr Huws Jones
Welsh song composer and musician
Intro | Welsh song composer and musician | |||
Places | United Kingdom Wales | |||
is | Musician Composer | |||
Work field | Music | |||
Gender |
| |||
Birth | February 1950, Llangefni, United Kingdom | |||
Age | 74 years | |||
Education |
|
Cyfansoddwr a cherddor o Gymro yw Emyr Huws Jones (ganwyd Chwefror 1950). Mae'n gyn-aelod o fandiau Y Tebot Piws a Mynediad am Ddim ac yn gyfansoddwr caneuon adnabyddus fel "Cofio Dy Wyneb", "Ceidwad y Goleudy" a "Rebal Wicend".
Fe'i magwyd yn Llangefni. Roedd tua 12 pan gafodd gitâr a cafodd ei ddylanwadu gan gerddoriaeth Bob Dylan.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Llangefni a Choleg y Brifysgol, Bangor. Daeth yn ffrindiau gyda Alun 'Sbardun' Huws a ffurfiodd y band Y Tebot Piws gyda Stan Morgan-Jones a Dewi 'Pws' Morris.
Ar ôl gadael y coleg, cafodd swydd yn llyfrgell y dre' yn Aberystwyth, lle roedd yn cymysgu efo'r myfyrwyr oedd yn yfed yn y Blingwyr. Daeth yn ffrindiau gyda Emyr Wyn a chafodd wahoddiad i ymuno gyda Mynediad am Ddim.