Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh broadcaster, sports commentator | ||
Places | Wales | ||
is | Sports commentator | ||
Work field | Journalism Sports | ||
Gender |
| ||
Birth | 1974 | ||
Age | 51 years | ||
Family |
|
Biography
Darlledwr yw Dylan Ebenezer (ganwyd 1974) a ddaeth yn adnabyddus fel sylwebydd a chyflwynydd chwaraeon. Mae'n cyflwyno Sgorio ar S4C ers 2010 a Dros Frecwast, rhaglen foreol ar BBC Radio Cymru ers 2021.
Bywyd cynnar
Magwyd Dylan Llywelyn Ebenezer yn Aberystwyth yn fab i Jên a Lyn Ebenezer. Mynychodd Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Penweddig.
Gyrfa
Cychwynodd fel gohebydd radio a sylwebydd gyda BBC Cymru cyn dod yn wyneb pêl-droed Cymru ar S4C. Ar BBC Radio Cymru mae wedi cyd-gyflwyno y rhaglen chwaraeon Camp Lawn ac wedi bod yn gapten tîm y cwis chwaraeon Cant y Cant.
Bu'n cyflwyno ar y raglen bêl-droed wythnosol Sgorio ers 2010 ac mae wedi cyflwyno gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru i'r Sianel.
Cyflwynodd y sioe banel Gwefreiddiol am 5 cyfres ar S4C rhwng 2012 a 2015. Roedd y sioe yn gyfuniad o gwis a sialensau wedi seilio ar fyd y cyfryngau newydd, y We a technoleg.
Yn 2016 cyflwynodd rhaglen ddogfen gyda'i dad Lyn am hanes Gwrthryfel y Pasg. Yn Rebels Iwerddon 1916 aeth y ddau ar daith arbennig i olrhain yr hanes a straeon y rhai a aeth ymlaen i sicrhau annibynniaeth Iwerddon
Ar ddiwedd 2020 cyhoeddwyd y byddai Dylan yn cyflwyno y sioe foreol newydd Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, enw newydd i raglen y Post Cyntaf. Roedd yn cymryd lle Dylan Jones ac yn cyflwyno o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 7 a 9 y bore gyda Kate Crockett. Darlledwyd y rhaglen gyntaf ar 25 Ionawr 2021.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Dylan Ebenezer ar Twitter