Davyth Fear

Winner of £500,000 on "Who Wants to Be a Millionaire" TV Show
The basics

Quick Facts

IntroWinner of £500,000 on "Who Wants to Be a Millionaire" TV Show
PlacesEngland United Kingdom
isNaturalist Linguist
Work fieldBiology Literature Science Social science
Gender
Male
Birth17 March 1960, Bristol, Avon, South West England, United Kingdom
Age64 years
Star signPisces
Family
Siblings:Donald Fear
The details

Biography

Naturiaethwr, ysgolhaig ac athro wedi’i ymddeol yw Davyth Fear (g. David Frederick Fear ar 17 Mawrth 1960), sy’n byw yng Nghymru . Fe’i ganwyd ym Mryste ond symudodd i Fanceinion yn blentyn ifanc; ef yw’r hynaf o bedwar o blant. Symudodd ei deulu pan oedd yn ei arddegau i Gernyw ble fuodd yn ddisgybl yn Launceston College a ble ddatblygodd ei ddiddordeb mewn ieithoedd a diwylliant Celtaidd . Erbyn 1982 roedd wedi mabwysiadu’r ffurf Gernywaidd o’i enw, Davyth, ac ymunodd a'r Undeb Celtaidd. Bu’n Is-ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb rhwng 1984 a 1988, ac Ysgrifennydd Cyffredinol rhwng 1988 a 90.

Ym 1984 symudodd i Gymru gan ddysgu Cymraeg. Ym 1986 cyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun. Yn ystod 1986-7 trefnodd y record aml-gyfrannog cyntaf o ganeuon pop a roc yn y chwe iaith Geltaidd (Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban and Manaweg) gyda’r enw 'Keltia Rok'. Rhyddhawyd ar label Recordiau Sain yn 1987 ar gyfer yr Eisteddfod ym Mhorthmadog. Roedd yn cynnwys y caneuon roc cyntaf i gael eu rhyddhau erioed yn yr ieithoedd Cernyweg a Manaweg.. Crynhaodd y New Musical Express, cylchgrawn cerddoriaeth Seisnig, y record fel a ganlyn: “Yn y pendraw, arwyddocad y record yw bod yr ieithoedd hyn yn fyw ac nid mewn amgueddfeydd.” Yn ôl y cylchgrawn ‘Welsh Music History’, roedd yn gam mawr ymlaen ar gyfer diwylliant cerddoriaeth cyfoes yn y cenhedloedd Celtaidd.

Yn dilyn ymweliad i Simbabwe sefydlodd weithgor o naturiaethwyr er mwyn safoni enwau adar Affrica yn y Gymraeg. Wedyn safonodd y grŵp enwau adar Ewrop ar gyfer gwefan Avionary. Helpodd Davyth drefnu’r rhestri adar yn y Gernyweg, Manaweg, Gaeleg yr Alban a Llydaweg., Aeth y grŵp ymlaen i greu rhestr o enwau adar y byd cyfan.. Troswyd rhestr adar y byd gan algorithm ddatblygwyd gan Brifysgol Bangor a Wikimedia UK i bron 10,000 o dudalenni Wicipedia yn y Gymraeg. Ffrwyth llafur hyn oll oedd ychwanegu dros 17,000 o ffotograffau o Comin Wicimedia i eiriadur 'Y Bywiadur'.

Gweithiodd Davyth fel athro Daearyddiaeth yn gyntaf yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog, ac yna Ysgol Uwchradd Bodedern, Ynys Môn. Ymhlith y disgyblion dysgwyd ganddo mae George North a Gareth Wyn Williams. Yn ystod y cyfnod hyn ysgrifennodd nifer o erthyglau i werslyfrau a chylchgronau daearyddiaeth Cymraeg , ac arweiniodd deithiau ysgol i nifer o wledydd.

Yn 2019 ymddangosodd Davyth yn y rhaglen deledu Who Wants to Be a Millionaire? ble ddaeth i fod y 10fed cystadleuydd i ennill £500,000. Ei ymddangosiad oedd yn hynod am ei ddefnydd o 'Ask the audience' ar gyfer y cwestiwn £500,000. Dyna oedd yr ail achlysur yn unig ar y rhaglen yn ei newydd wedd gyda Jeremy Clarkson bod rhywun wedi wynebu cwestiwn £1,000,000.

Ym Mis Medi 2020, daeth ei frawd, Donald Fear, i fod y chweched i ennill £1,000,000 ar yr un rhaglen, a’r cyntaf i wneud hynny heb ddefnyddio pob un o’i raffau diolgelwch. Yn 2020 ymddangosodd Davyth ar raglen cwis 'Mastermind Cymru' gan orffen yn bumed, ac yn 2022 ar raglen 'Eggheads' efo'i frawd.

Davyth Fear a Donald Fear

Rhwng 1995 a 2022 bu’n ysgrifennydd Cymdeithas Seryddol Gwynedd, gan gyflwyno dros 65 o ddarlithoedd iddynt dros y blynyddoedd. Mae o hefyd yn aelod o dîm croce golff Llanfairfechan sy’n chwarae yn Nghynghrair y Gogledd Orllewin a Chlwb Camera Dyffryn Ogwen.

Yn 2020 dechreuodd ddysgu'r iaith Gernyweg. Erbyn mis Chwefror 2023 roedd wedi ysgrifennu dros 1,000 erthygl yn yr iaith honno. Mae'n aelod o Banel Terminoleg yr iaith. Cafodd ei urddo fel bardd o Orsedd Cernyw yn 2023 gyda'r enw barddol 'Karer Kedhlow', (Carwr Gwybodaeth). Ym mis Mehefin 2023, y rhoddodd y trydydd Darlith Blynyddol ar ran yr Akademi Kernewek ar y destun o 'safoni enwau adar'.

Llun fel bardd Gorsedh Kernow
The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 19 Nov 2024. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.