Biography
Gallery (1)
Bibliography (1)
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh Congregational minister, hymnist and musician | |
Places | United Kingdom Great Britain | |
was | Cleric Christian minister Writer Hymnwriter Musician Carpenter Minister | |
Work field | Literature Music Religion | |
Gender |
| |
Religion: | Congregationalist polity | |
Birth | October 1770, Llanuwchllyn, Gwynedd, Wales, United Kingdom | |
Death | 25 August 1831Liverpool, Liverpool, Merseyside, United Kingdom (aged 60 years) |
Biography
Cerddor, emynydd a gweinidog gyda'r Annibynwyr oedd David Jones (Hydref 1770 – 25 Awst 1831).
Cefndir
Ganwyd David Jones, Hydref 1770 yn Coed-y-ddôl, Llanuwchllyn, sir Feirionnydd. Ei alwedigaeth oedd gwneuthurwr llestri coed. Aeth am gwrs o addysg yn ddyn ieuanc, i'r athrofa yn Wrecsam o dan yr athro Jenkin Lewis. Aeth i Dreffynnon i ofalu am yr eglwys Annibynnol yno yn 1801. Yn 1810 cyhoeddodd gasgliad o emynau, a chafwyd ail argraffiad yn 1821 yn cynnwys fel atodiad Egwyddorion neu Dônraddau Cerddoriaeth (Gamut) a amcanwyd yn bennaf er annogaeth a chynnorthwy i Bobl Ieuangc i ddysgu Peroriaeth Sanctaidd (3ydd arg. yn 1826). Yn 1831 aeth i Fanceinion i gasglu at gynorthwyo eglwysi gweiniaid. Bu farw 25 Awst 1831, yn Lerpwl, trwy ddamwain. Claddwyd ef yn Nhreffynnon.
Ffynonellau
- Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, iv, 222;
- W. A. Griffiths, Hanes Emynwyr Cymru (Caernarfon 1907);
- C. Ashton, Llyfryddiaeth Gymreig o 1801 i 1810 (1908);
- [ Y Gwyddoniadur Cymreig (1889–96) (ail arg.), vi, 416 D;
- R. T. Jenkins, Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn (1937), 99, 114].