Cassie Jane Davies

Educator and Welsh nationalist
The basics

Quick Facts

IntroEducator and Welsh nationalist
PlacesUnited Kingdom
wasTeacher
Work fieldAcademia
Gender
Female
Birth20 March 1898, Tregaron, Ceredigion, Wales, United Kingdom
Death17 April 1988 (aged 90 years)
Star signPisces
The details

Biography

Cefndir

Ganwyd Cassie Davies (1898 - 1988) yn Tregaron, yn 1898. Magwyd hi yn un o ddeg o blant mewn teulu llengar a cherddgar.    

Addysgwyd hi yn ysgol fach Blaencaron, ac yna yn y ‘Cownti Sgŵl’ yn Nhregaron, lle bu iddi gael ei dysgu gan S. M. Powell.  Dyma un o’r prif ddylanwadau ar y Cassie ifanc, gyda’i gwersi wedi’u gwreiddio yn hanes, chwedlau a thraddodiadau’r ardal.  

Symudodd ymlaen i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac er iddi ennill ei gradd nid effeithiodd y cwrs arni o gwbl, ac felly aeth yn ôl i ennill ail radd yn y Gymraeg.  Yn ystod y cwrs hwn “…yr enynnwyd fy niddordeb diollwng i yn fy iaith fy hun.  Dyma’r pryd y dechreuais i ddod yn ymwybodol o’m gwreiddiau a’m hetifeddiaeth fel Cymro…”.

Bu’n ddarlithydd yng Ngholeg Addysg y Barri rhwng 1923 ac 1938.

Bu farw yn 1988. Gosodwyd cofeb iddi ar wal Capel Blaencaron gan Gangen Plaid Cymru Tregaron gyda’r geiriau canlynol wedi’u hysgrifennu arni: Bu’n hwb i’w bro a’i gwlad.

Plaid Cymru

Yn ystod Ysgol Haf gyntaf Plaid Cymru ym Machynlleth yn 1926, ymunodd Cassie â’r Blaid gan gwrdd â rhai o’i ffrindiau oes yno, pobl fel Saunders Lewis, Kate Roberts a D.J. Williams.  Aeth yn ôl i’r Bari a sefydlu cangen o’r Blaid yno, a bu ei gwaith gyda Phlaid Cymru yn ddiflino wedi’r haf hwnnw.  

Yn 1938 penodwyd hi yn Arolygydd Ysgolion, gyda gofal arbennig dros y Gymraeg. Yn y swydd hon y daeth hi i adnabod Cymru, gan flasu ac ymgolli yn niwylliannau amrywiol ei gwlad; o Ben Llŷn i’r Rhondda, Morgannwg a Phenfro. Lle bynnag yr âi, hoffai ddim mwy ’na dod i adnabod cymeriadau’r ardal a rhannu ambell i stori neu gân.

Trafodir dylanwad S. M. Powell ar Cassie Davies a nifer o arweinwyr cynnar eraill Plaid Cymru yn narlith yr Athro E. Wyn James, ‘“Gweld gwlad fawr yn ymagor”: Breuddwyd Cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis’, http://www.hanesplaidcymru.org/english-cofio-yr-athro-griffith-john-williams-ai-wraig-elizabeth/.


Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 24 Aug 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.