Casi Wyn
Welsh singer and writer
Cantores, cyfansoddwraig, bardd ac awdures o ardal Bangor ydy Casi Wyn. Hi yw Bardd Plant Cymru.
Mae hi wedi rhyddhau recordiau gyda labeli I Ka Ching ac yn fwy diweddar dan yr enw Casi a Casi & The Blind Harpist gyda Chess Club Records a Roc Nation. Perfformiodd yng ngŵyl SXSW a BBC Proms Abertawe gyda cherddorfa genedlaethol y BBC. Yn 2019, sefydlodd y cylchgrawn Codi Pais gyda Manon Dafydd a Lowri Ifor.
Ymddangosodd yn y gyfres deledu Porthpenwaig.
Yn 2022, cyfarwyddodd ffilm ddogfen o'r enw Hunan Hyder gyda Carys Huws yn dilyn stori'r artist Marged Sion o grŵp Self Esteem.
Mae Casi Wyn yn gyn-ddisgybl Ysgol Tryfan.