Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Biography
Gwrach neu gawres ddychmygol oedd Canthrig Bwt. Dywedir ei bod yn byw yn Nantperis, Eryri, a'i bod yn bwyta plant.
Roedd Canthrig yn byw dan garreg anferth a elwir y Gromlech, sydd dal i'w gweld heddiw ar bwys y lôn ym mhen uchaf Nant Peris ar y ffordd i fyny o dref Llanberis i Ben-y-pass; enwir Dinas y Gromlech ar ei hôl. Yn ôl y chwedl werin leol, roedd hi'n adnabyddus i'r trigolion fel hen wraig unig, sarrug, yr oedd ar y plant ei hofn hi.
Un diwrnod aeth rhai o blant y gymdogaeth ar goll. Chwilwyd amdanyn nhw ond roedden nhw wedi diflannu. Yn nes ymlaen aeth dyn lleol yn mynd i hela â'i gi. Cafodd y ci hyd i esgyrn plentyn a dechrau eu cnoi. Gwelwyd y wrach yn cilio i'w chartref dan y Gromlech. Aeth y dyn ar ei hôl hi yn llechwraidd ac ar ôl cyrraedd y garreg gwaeddodd fod ganddo blant i Ganthrig. Pan ddaeth hi allan, torrodd ei phen â'i fwyall a dyna ddiwedd Canthrig Bwt.
Ceir chwedlau cyffelyb am wrachod yn bwyta plant yn llên gwerin sawl gwlad, e.e. y wrach yn y chwedl adnabyddus am Hansel a Gretel gan y Brodyr Grimm a'r chwedlau am y trols yn Llychlyn.
Cyfeiriadau
- John Jones (Myrddin Fardd), Llên Gwerin Sir Gaernarfon
- T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (1930; 1970)