Caian
Welsh saint
Sant o'r 5ed neu'r 6g oedd Caian. Yn ôl un llawysgrif (Iolo MSS tud 117) ei dad oedd Caw, sant ac un o frenhinoedd yr Hen Ogledd a ddihangodd i Ynys Môn, ble rhoddodd Maelgwn Gwynedd dir iddo yng ngogledd-ddwyrain yr ynys: ardal o'r enw Twrcelyn. Os mai Cai oedd ei dad yna un o'i chwiorydd oedd Cwyllog, a sefydlodd eglwys Sant Cwyllog, Llangwyllog yn 6g. Ei ddydd gŵyl yw 25 Medi.
Ond yn ôl llawysgrifau eraill, gan gynnwys Peniarth 75 ac 178, roedd Caian yn byw yn y 5g ac yn fab i Frychan Brycheiniog, un o frenhinoedd De Cymru.
Mae'n bosib iddo roi ei enw i Langaian ger Tregaian ym Môn (neu 'Tregaean'; 'Tregaearn' yn ôl yr Eglwys yng Nghymru), oddeutu 2.5 milltir (4.0 km) i'r gogledd o Langefni (Cyfeirnod grid: SH45127970).