Benjamin William Chidlaw

Missionary
The basics

Quick Facts

IntroMissionary
PlacesWales United Kingdom
wasMissionary Minister Teacher Cleric Chaplain
Work fieldAcademia Religion
Gender
Male
Birth14 July 1811, Bala, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Death14 July 1892Dolgellau, Gwynedd, Wales, United Kingdom (aged 81 years)
Star signCancer
Education
Miami University
The details

Biography

Roedd Benjamin William Chidlaw (14 Gorffennaf 1811 -14 Gorffennaf 1892) yn genhadwr Cymreig dros achos yr ysgol Sul yn yr Unol Daleithiau.

Cefndir

Ganwyd Chidlaw yn y Bala yn blentyn i Benjamin Chidlaw a Mary Williams, ei wraig. Roedd ei dad yn fasnachwr a'i fam yn ferch ffarm. Cafodd ei fedyddio ar 4 Awst 1811 yng nghapel yr Annibynwyr, y Bala gan y Parch John Lewis. Roedd ei rieni yn aelodau brwd o'r Annibynwyr, felly cafodd ei fagu ar aelwyd grefyddol. Ei unig addysg yn blentyn ifanc yng Nghymru oedd yn yr Ysgol Sul.

Gan ei fod yn anghydffurfiwr roedd Benjamin Chidlaw yr hynaf yn anfodlon gorfod talu degwm (un rhan o ddeg) o'i gynnyrch a'i incwm i goffrau Eglwys Loegr o dan gyfraith gwlad. I osgoi'r degwm ac i fwynhau mwy o ryddid mewn addoliad symudodd y teulu i'r Unol Daleithiau ym 1821.

Hwyliodd y teulu o Lerpwl i Efrog Newydd cyn gwneud eu ffordd i Radnor, Ohio. Ychydig cyn pen y daith bu farw'r tad o golera a bu'r fam yn ddifrifol sâl efo'r cyflwr hefyd.

Addysg

Roedd ysgol dydd elfennol ychydig filltiroedd i ffwrdd o fferm newydd y teulu Chidlaw a fu Benjamin yn ei fynychu yn ystod misoedd y gaeaf er mwyn dysgu ysgrifennu Saesneg. Am weddill y flwyddyn byddai'n brysur efo dyletswyddau amaethyddol. Ym 1827 symudodd i ysgol breswyl yn Worthington, Ohio a oedd yn cael ei gynnal gan yr Eglwys Brotestannaidd Esgobol. Wedi cyfnod yn Worthington safodd arholiadau'r dalaith i ddyfod yn athro a dychwelodd i'w hen ysgol yn Radnor i ddysgu.

Wedi cynilo ei gyflog fel athro talodd am ddau dymor mewn coleg yn Gambier, Knox County, Ohio lle fu'n cael gwersi mewn Lladin, Groeg, Mathemateg a Llenyddiaeth Saesneg. Cafodd ei ail gyflwyno i waith yr ysgol Sul yn Gambier. Wedi dychwelyd i fod yn athro yn Radnor penderfynodd agor ysgol Sul yn y capel Presbyteraidd Cymreig roedd yn aelod ohono yno.

Ym 1829 dechreuodd ar gwrs 3 mlynedd ym Mhrifysgol Ohio yn Athens, Ohio. Wedi graddio yn Athens aeth ymlaen i wneud cwrs ym Mhrifysgol Oxford, Miami.

Gyrfa

Paratoi am y weinidogaeth

Dechreuodd Chidlaw pregethu fel pregethwr cynorthwyol tra'n fyfyriwr yn Athens. Wedi gorffen ei radd yn Oxford fe wnaeth gais i gael mynd i'r weinidogaeth llawn amser. Cafodd ei dderbyn yn ymgeisydd gan henaduriaeth Bresbyteraidd Oxford a dychwelodd i'r brifysgol i wneud cwrs paratoawl ar gyfer y weinidogaeth. Wedi darfod ei gwrs cafodd ei gais cyntaf i gael ei ordeinio gan henaduriaeth Oxford ei wrthod ar y sail ei fod wedi bod yn pregethu ar destunau Beiblaidd heb drwydded ganddynt am sawl flwyddyn. Wedi gwario blwyddyn yn parhau i lenwi pulpudau ond gan areithio ar bynciau crefyddol cyffredinol heb gyhoeddi testun o'r ysgrythur cafodd ei drwyddedu i bregethu gan yr henaduriaeth ar 7 Ebrill 1835.

Derbyniodd gwahoddiad i ddod yn weinidog ar gapel annibynnol Paddy's Run, Butler County, Ohio. Roedd y capel yn un oedd yn cynnal gwasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Wedi derbyn y rhan fwyaf o'i addysg trwy'r Saesneg ac wedi arfer pregethu trwy'r Saesneg yn bennaf penderfynodd dychwelyd i Gymru am dymor i wella ei Gymraeg ac i ail afael ar y profiad o addoli trwy gyfrwng yr iaith. Trwy gyd ddigwyddiad aeth i wasanaeth yn Lerpwl oedd yn cael ei gynnal gan William Williams o'r Wern, un o bregethwyr mwyaf Cymru ar y pryd. Wedi deall y rheswm am ei ymweliad gwahoddodd y Wern iddo i gyd bregethu ag ef yng ngwasanaeth yr hwyr. Bu'r Wern hefyd yn foddion iddo gyfarfod a rai o bregethwyr mawr eraill Cymru, megis Christmas Evans a John Eleias ac i gael cyhoeddiadau pregethu. Gwariodd y ddeufis nesaf yn pregethu dwywaith pob dydd wythnos a theirgwaith ar y Sul ar daith trwy ogledd Cymru.

Gweinidog Capel

Wedi dychwelyd i'r Unol Daleithiau gwariodd Chidlaw cyfnod ymysg Cristionogion Cymraeg Cincinnati yn ymarfer y sgiliau Cymraeg a ddysgodd ar ei daith i'r henwlad. Wedi clywed am ei waith yn sefydlu ysgolion Sul yn Ohio a'i gysylltiad â, a'i wybodaeth am, y drefn ysgolion Sul Cymraeg derbyniodd gwahoddiad gan B J Stewart, asiant ar ran yr "American Sunday School Union" i weithio'n llawn amser i'r undeb. Gan ei fod wedi rhoi addewid i gapel Paddy's Run bu'n rhaid iddo ymwrthod a'r cynnig. Wedi trafodaethau efo'r capel, daethpwyd i gyfaddawd, lle byddai'r Undeb Ysgolion Sul yn talu pumed ran o'i gyflog fel gweinidog am bumed ran o'i amser yn cenhadu dros achos yr ysgolion.

Cafodd ei ordeinio yn weinidog Paddy's Run ar 26 Mai 1836. Gwasanaethodd fel gweinidog y capel am 8 mlynedd gan gyfuno'r gwaith efo teithiau lluosog i gyffindiroedd gorllewin America i sefydlu cannoedd o ysgolion Sul newydd. Ym 1844 penderfynodd dwy gynulleidfa Bresbyteraidd yn Cleves, Ohio i uno a gwahoddwyd Chidlaw i fod yn weinidog iddynt. Derbyniodd yr alwad gan fod yr eglwys yn agos i gartref rhieni ei ail wraig. Dim ond blwyddyn bu'n weinidog Cleves.

Cenhadwr Undeb yr Ysgolion Sul

Wedi eu plesio efo'i gwaith rhan amser, gofynnodd Undeb Ysgolion Sir America iddo i weithio yn llawn amser iddynt, fel ei bod yn gallu cael yr amser i dreiddio ymhellach i mewn i'r cyffindiroedd a oedd yn prysur ehangu. Derbyniodd y swydd gan gael ei benodi yn gennad arolygol ar gyfer taleithiau Ohio ac Indiana. Byddai'n teithio trwy'r taleithiau yn sefydlu ysgolion newydd ac yn ceisio canfod eraill i wneud y gwaith cenhadol hefyd. Bydda'i Chidlaw hefyd yn annog ysgolion Sul i gynnal gwasanaethau undebol mawr hefyd. Weithiau byddai hyd at ugain o ysgolion, gyda chyfartaledd o 75 disgybl yr un yn uno i orymdeithio trwy dref gyda'u baneri cyn cynnal gwasanaeth awyr agored.

Gwasanaeth rhyfel

Ar ddiwedd 1860 penderfynodd talaith De Carolina i dynnu allan o'r Unol Daleithiau mewn ymateb i ethol Abraham Lincoln yn Arlywydd. Erbyn dechrau 1861 roedd chwe thalaith arall wedi tynnu allan ffurfio'r Taleithiau Cydffederal gydag arlywydd ei hun. Ym mis Ebrill 1861 dechreuodd rhyfel rhwng y Taleithiau Cydffederal a'r Unol Daleithiau sydd bellach yn cael ei alw'n Rhyfel Cartref America. O herwydd y sefyllfa wleidyddol doedd dim modd parhau a'r gwaith cenhadol o sefydlu ysgolion Sul newydd. Gan fod miloedd o ddisgyblion ac athrawon yr ysgolion Sul oedd o dan ei ofal wedi ymuno a'r fyddin, penderfynodd Chidlaw eu dilyn gan ymrestru fel caplan byddin yn y 39ain Catrawd, Gwirfoddolwyr Ohio. Wedi blwyddyn yn y fyddin fe drawyd gyda salwch difrifol a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w gomisiwn ym mis Mai 1862. Parhaodd gyda gwaith ryfel trwy ddod yn swyddog gyda'r Bwrdd Glanweithdra. Roedd y bwrdd yn gyfrifol am redeg ysbytai, gan gynnwys yr ysbytai oedd yn trin anafiadau rhyfel. Dyletswydd Chidlaw oedd caffael ar nwyddau angenrheidiol i'r cleifion megis rhwymau a dillad gwely, yn ogystal â darparu ar gyfer anghenion ysbrydol y clwyfedigion.

Caplan carchar a dychwelyd i'w genhadaeth

Wrth fynd ar ei deithiau cenhadol i sefydlu ysgolion Sul, bu Chidlaw yn aml yn cynnwys ymweliadau i garchardai ac ysgolion penyd. Wedi'r rhyfel cafodd gwahoddiad i fod yn gomisiynydd ysgol fferm i blant troseddol Ohio. Roedd yn gyfrifol am sicrhau darparu addysg grefyddol ac addysg paratoad at waith. Dychwelodd hefyd i'w waith fel cenhadwr dros yr ysgolion Sul gan barhau yn y gwaith hyd ei farwolaeth.

Teulu

Priododd Hannah merch Morgan ac Elizabeth Gwilym, teulu Cymraeg a oedd wedi ymfudo i'r America ym 1795. Bu Hannah marw o gymhlethdodau esgor eu plentyn cyntaf ym 1840, bu'r plentyn marw hefyd. Ym 1842 priododd Rebecca Hughes, merch Ezekiel a Mary Hughes teulu oedd wedi ymfudo o Gymru i'r America ym 1796. Bu iddynt 10 o blant

Marwolaeth

Ym 1892 bu ar ymweliad i Gymru yn aros ym Mryntirion, Dolgellau, cartref gweddw ei diweddar gefnder pan fu farw'n sydyn ar ei 81 pen-blwydd. Danfonwyd ei gorff yn ôl i Cleves, Ohio i'w gorwedd yng Nghladdgell y teulu ym mynwent Capel Berea.

Llyfrau

Cyhoeddodd

  • History of Paddy's Run,
  • Yr America,
  • Golwg ar Dalaith Ohio,
  • Hanes Sefydliadau Cymraeg yr America,
  • Cyfarwyddiadau i Ymfudwyr,
  • The Story of My Life

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 13 Sep 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.