Arthur Hughes

HUGHES, ARTHUR , Welsh writer
The basics

Quick Facts

IntroHUGHES, ARTHUR , Welsh writer
PlacesUnited Kingdom Wales
wasWriter
Work fieldLiterature
Gender
Male
Birth2 January 1878, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Death25 June 1965 (aged 87 years)
Star signCapricorn
Family
Mother:Ann Harriet Hughes
The details

Biography

Golygydd a llenor Cymreig oedd Arthur Hughes (2 Ionawr 1878 – 25 Mehefin 1965), a gofir fel golygydd dwy flodeugerdd ac fel gŵr a gyfranodd yn sylweddol i fywyd diwyllianol Y Wladfa ym Mhatagonia.

Bywgraffiad

Ganed Arthur Huhges yn Nhalsarnau, Meirionnydd, yn 1878, yn fab i'r meddyg John Hughes Jones a'i wraig Annie, sy'n fwy adnabyddus wrth ei henw barddol Gwyneth Vaughan.

Roedd yn feirniad llenyddol craff a ymddiddorai mewn barddoniaeth Gymraeg. Golygodd ddwy flodeugerdd bwysig yn y 1900au, sef Cywyddau Cymru (1909) a Gemau'r Gogynfeirdd (1910). Ymfudodd i Batagonia y flwyddyn wedyn a bu'n byw yno am weddill ei oes. Ysgrifenodd nifer o erthyglau i gylchgronau Cymraeg.

Roedd yn dad i Irma Hughes de Jones.

Llyfryddiaeth

Golygydd
  • Cywyddau Cymru (Jarvis a Foster, Bangor, 1909; ail argraffiad, Bangor 1926)
  • Gemau'r Gogynfeirdd (1910)
Erthygl amdano
  • Thomas Parry, 'Arthur Hughes', Taliesin, rhif 38, 1979.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 10 Aug 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.