Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Gender |
|
Biography
Alltudiwyd Ann Watkins (ganwyd tua 1822) o Sir Fynwy i Van Diemen’s Land (Tasmania heddiw), am gyfnod o ddeng mlynedd, wedi iddi ddwyn darn o facwn a thorth o fara, ei throsedd cyntaf hyd y gwyddom.
Ar 28 Mawrth 1840, yn 18 blwydd oed, plediodd hi a Elizabeth Lewis (18 oed) yn euog o ddwyn torth o fara, darnau o gig mochyn (yn cynnwys y wyneb) a chwarter pwys o sebon. Hwyliodd ar gwch y Navarino ar 5 Hydref 1840 gyda 179 o garcharorion eraill a glaniodd yn Tasmania ar 17 Ionawr 1841.
Ym marn sawl hanesydd blaenllaw megis Deidre Beddoe derbyniodd merched a oedd wedi troseddu gosb lem trawsgludiad oherwydd bod angen cywiro’r anghydbwysedd a fodolai rhwng y rhywiau o fewn y cytrefi cosb. Alltudiwyd troseddwyr benywaidd i Awstralia er mwyn bodloni chwantiau rhywiol y troseddwyr a’u swyddogion. O dan Ddeddf Trawsgludo mae lle i gredu fod merched wedi derbyn triniaeth wahanol i’w cyfatebwyr gwrywaidd am iddynt dderbyn y gosb hon am fân droseddau.