Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
A.K.A. | Andrew "Tommo" Thomas |
A.K.A. | Andrew "Tommo" Thomas |
is | Radio personality |
Work field | Film, TV, Stage & Radio |
Birth | 1967 |
Age | 58 years |
Biography
Cyflwynydd radio o Gymro yw Andrew "Tommo" Thomas (ganwyd 1 Chwefror 1967).
Magwyd Andrew Paul Thomas yn Aberteifi. Yn ôl ei hunangofiant, fe adawodd yr ysgol cyn gynted ag y medrai, gan gymryd nifer o swyddi: dyn post, cynnal discos yn Aberteifi ac yn Sbaen, torri beddau, a gweithio mewn siop cigydd.
Gyrfa
Bu'n cyflwyno'r sioe frecwast ar orsafoedd Nation Broadcasting yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnwys Radio Sir Gâr, Radio Pembrokeshire a Radio Ceredigion. Yn 2011 enillodd wobr Gyflwynydd Radio’r Flwyddyn ar gyfer gorsafoedd sy’n gwasanaethu hyd at 300,000 o bobol.
Ymunodd a BBC Radio Cymru yn 2014 gyda sioe rhwng 2 a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau. Yng Ngorffennaf 2017 fe'i gwaharddwyd o'i waith am rai wythnosau tra bod y BBC yn cynnal ymchwiliad i gŵyn am sylwadau a wnaeth yn ystod Gŵyl Nôl a ’Mlân yn Llangrannog. Ysgrifennodd at yr Ŵyl i ymddiheuro a dychwelodd i'w sioe ar ddiwedd Gorffennaf. Yn Chwefror 2018, cyhoeddodd y byddai'n gadael Radio Cymru gan ddychwelwyd i gwmni Nation i gyflwyno rhaglen newydd rhwng 11am a 3pm. Cyflwynyodd ei sioe Radio Cymru olaf ar ddydd Iau, 29 Mawrth 2018.
Cyhoeddwyd Tommo - Stori'r Sŵn Mawr yn 2014, cyfrol o straeon am hanes a bywyd Tommo.
Bywyd personol
Mae'n briod a Donna ac mae ganddynt fab. Yn 2006 cafodd ddiagnosis o afiechyd yr aren. Cychwynnodd gael dialysis yn Ionawr 2007 ac yna trawsblaniad aren ym Mehefin yr un flwyddyn.
Cyfeiriadau
- ↑ Gwobr Brydeinig i Radio Ceredigion , Golwg360, 8 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.
- ↑ Amserlen Radio Cymru ar ei newydd wedd , Golwg360, 10 Mawrth 2014. Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.
- ↑ Tommo yn ôl ar yr awyr ddydd Llun nesaf , Golwg360, 26 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.
- ↑ Tommo yn gadael Radio Cymru , Golwg360.
- ↑ Bywyd newydd , BBC Cymru Fyw, 7 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.
Dolenni allanol
- Andrew Thomas ar Twitter
- Rhaglen Tommo ar BBC iPlayer
Awdurdod |
|
---|---|
Awdurdod |
|