Andras Millward
Welsh science fiction writer
Intro | Welsh science fiction writer | ||
Places | United Kingdom Wales | ||
was | Writer | ||
Work field | Literature | ||
Gender |
| ||
Birth | 1966, Aberystwyth, Ceredigion, Wales, United Kingdom | ||
Death | 16 October 2016 (aged 50 years) | ||
Family |
|
Awdur Cymreig toreithiog oedd Andras Millward (1966 – 16 Hydref 2016). Roedd yn nodedig am y nofelau Deltanet, Prosiect Nofa ac Un Cythraul yn Ormod (Y Lolfa, 1996) sy'n cael ei chydnabod fel un o gampweithiau ffuglennol yr 1990au.
Fe'i magwyd yn Aberystwyth yn fab i'r darlithydd Cymraeg Tedi Millward a Silvia Hart. Ei chwaer yw'r gantores Llio Millward. Roedd yn byw ym Mryste ac yn gweithio yn y maes technoleg gwybodaeth. Roedd e hefyd yn hyfforddwr ar gyfer crefft ymladd Wing Chun.
Bu farw yn Hydref 2016 yn 50 oed. Roedd ganddo ddwy ferch. Dywedodd yr awdures Elin Llwyd Morgan ei fod yn "berson addfwyn iawn, ac roedd ganddo hiwmor tawel" a fod "ei gyfraniad yn un pwysig achos roedd o’n ysgrifennu mewn genre sy’n eithaf anodd yn y Gymraeg".