Alvis Richards
Gweithwraig gymdeithasol a chyfrannwr i S4C a Radio Cymru.
Intro | Gweithwraig gymdeithasol a chyfrannwr i S4C a Radio Cymru. | |
Places | Wales United Kingdom | |
Gender |
| |
Birth | 1935, Tumble, Carmarthenshire, Wales, United Kingdom | |
Death | 22 January 2006 (aged 71 years) |
Gweithwraig gymdeithasol oedd Alvis Richards (1935 – 22 Ionawr 2006) a ddaeth yn gyfarwydd fel cyfrannwr ar S4C a Radio Cymru. Roedd yn hannu o'r Tymbl ger Llanelli.
Ar gychwyn y rhaglen gylchgrawn Heno yn y 1990au, roedd angen rhywun i drafod materion teuluol a phroblemau cymdeithasol. Gwahoddwyd Richards i wneud cyfweliad prawf gyda'r gyflwynwraig Siân Thomas a bu'n cyfrannu'n rheolaidd ar y rhaglen ers hynny. Bu hefyd yn gweithio i Gymdeithas y Plant. Ysgrifennodd lyfr ar broblemau teuluol cyfoes o'r enw Annwyl Alvis.
Roedd Alvis wedi dioddef o ganser y fron yn ei 50au. Bu farw o ganser yn 71 mlwydd oed yn 2006.